Bydd dros 90 o geir, gan gynnwys enghreifftiau godidog o'r Jaguar XK enwog a motos pen meddal eraill o'r 1950au a'r 1960au, yn galw yng Nglynllifon fel rhan o un o raliau mwyaf Gwledydd Prydain ar gyfer ceir clasurol. Mae'r Three Castles Welsh Classic Trial yn daith dridiau 500 milltir o hyd fyrdd a phriffyrdd y - Gogledd Cymru - gan ymweld â Pharc Glynllifon rhwng 8.30 a 10.15 fore Sadwrn, 5 Mehefin 2004.
Bydd yr ymweliad yn rhan o'r ddegfed Rali Stêm a Hen Beiriannau blynyddol a gynhleir eleni ym Mharc Glynllifon drwy ddydd Sadwrn a dydd Sul (5-6 Mehefin 2004).
Wedi'i threfnu ar y cyd rhwng Parc Glynllifon a Chymdeithas Diogelu Hen Beiriannau Gogledd Cymru bydd y rali, unwaith eto eleni, yn cynnwys ceir hynafol, beiciau modur, peiriannau fferm a pheiriannau stêm. Y pris mynediad fydd £2 i oedolion - hanner pris i blant.
"Mae'r Rali Stêm a Hen Beiriannau bellach wedi hen ennill ei phlwyf fel un o'r digwyddiadau pwysicaf yng nghalendr Patc Glynllifon, a dyma, heb os, yw un o'n penwythnosau mwyaf poblogaidd," meddai Rheolwr Parc Glynllifon, Gwynedd Roberts.
"Rydan ni'n hynod o falch o groesawu'r Three Castles i'n plith , ac rwy'n sicr y bydd yr atyniad ychwanegol hwn yn gwneud y Rali eleni'n fwy poblogaidd nag erioed o'r blaen," ychwanegodd.
Tra yng Nglynllifon bydd cystadleuwyr y Three Castles yn cynnal profion llywio a gyrru yn ogystal â mwynhau gweddill y sioe.
"Fe wnaethon ni ddewis Glynllifon am fod y parc yn leoliad gwych ar gyfer cynnal profion ar allu a rheolaeth gyrwyr, yn ogystal â bod yn lle dymunol i aros ar ein ffordd," meddai Cyfarwyddwr y Three Castles Trial, Ian Crammond.
"Rydan ni hefyd yn falch o gynnig y cyfle hwn i ymwelwyr weld y ceir a chyfarfod eu gyrwyr a'u perchnogion - hwn fydd ein hymweliad cyntaf â Glynllifon, a rydan ni'n edrych ymlaen yn eiddgar at y digwyddiad," ychwanegodd.
Bydd adloniant ar gyfer y teulu i gyd ym Mharc Glynllifon dros y Sul, gyda'r grŵp lleol Dangerous Age yn canu brynhawn Sadwrn, a Hogia'r Bonc o Fethesda, ddydd Sul.
Fe fydd yr injan stêm De Winton, sef yr ail injan stêm hynaf yng Ngwleydydd Prydain ac a leolir yn un o weithdai Parc Glynllifon hefyd ar waith fwrw'r Sul.