Ymysg y rhai fydd yn cael eu hanrhydeddu fydd merch ifanc ddaeth i fyw i Wynedd ychydig dros flwyddyn yn ôl yn ogystal a chwe unigolyn sydd wedi annog a chefnogi'r dysgwyr yn ystod eu hymgais i ddysgu Cymraeg.Sefydlwyd y gwobrau chwe mlynedd yn ôl er cof am y diweddar Gynghorydd Dafydd Orwig. Ar hyn o bryd mae dros 100 o weithwyr Cyngor Gwynedd yn mynychu gwersi Cymraeg unai yn y gweithle neu yn y gymuned.
"Mae ewyllys yn cyfrannu'n helaeth at allu person i ddysgu'r iaith, ac mi ryda ni'n ymfalchio yma yng Ngwynedd fod cynifer yn mynd ati mor frwdfrydig i ddysgu'r iaith,' meddai Catrin Parri sy'n gweithio i'r Cyngor fel Tiwtor - Cyd gysylltydd y Gymraeg.
"Mae'n bwysig hefyd talu teyrnged i'r unigolion sy'n chwarae rol y mentoriaid - mae eu diddordeb a'u dyfalbarhad hwy yn cyfrannu'n helaeth at lwyddiant y dysgwyr," ychwanegodd.
Alexandra Jones, 27, o Rachub yw ennillydd Gwobr Goffa Dafydd Orwig - Dysgwr y Flwyddyn i Ddechreuwyr eleni. Daw Alex yn wreiddiol o Aberdâr ond daeth i weithio fel Swyddog Amgylchedd Cynorthwyol i Gyngor Gwynedd yn Chwefror 2003.
Fe'i magwyd ar aelwyd ddi-Gymraeg ac er iddi gael gwersi Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol aeth hi ddim yn ei blaen i'w defnyddio na'i hymarfer. Gyda nawdd gan y Cyngor aeth Alex ati felly i ddechrau dysgu'r iaith eto ac ar ôl mynychu cyrsiau wythnosol a rhai dwys, mae hi wedi llwyddo i atgyfodi ei Chymraeg.
Mae'r gwobrwyon hefyd yn cydnabod ymdrechion unigolion sydd yn fwy rhugl ac yn gallu defnyddio'r iaith yn eu gwaith pob dydd. Enw'r dosbarth yma yw Croesi'r Bont, a'r ennillydd eleni yw Phillip Alcock o Gerrigydrudion.
Mae Phillip yn gweithio i'r Cyngor ers 2002 fel Swyddog Iechyd yr Amghylchedd yn Nolgellau. Yn ei farn ef, nid oes amheuaeth fod cefnogaeth ei gydweithwyr wedi cyfrannu llawer at ei allu i feistroli'r iaith yn llafar ac ysgrifenedig.
"Mae'n holl bwysig manteisio ar gyfleoedd i siarad yr iaith yn gyson - dydi mynychu gwersi yn unig ddim yn ddigon, mae'n hanfodol ei ddefnyddio er mwyn gwella," meddai.
Yr eilyddion yn y ddau ddosbarth yw:
Croesi'r Bont - Ruth Thomas
Daw Ruth o Rosneigr ym Môn. Er ei bod yn dod o gefndir Cymraeg, nid oedd Ruth yn siarad yr iaith yn aml yn ei phlentyndod. Ar ôl derbyn swydd gyda Chyngor Gwynedd fel Swyddog Cefnogol Systemau Gwybodaeth penderfynodd ail afael yn yr iaith er mwyn iddi fedru gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Bellach mae hi wedi magu hyder i siarad Cymraeg ar y ffôn ac i fynychu cyfarfodydd lle defnyddir yr iaith.
Dechreuwyr Aisling Carrick a Cameron Edwards. Un o Mullingar yn Iwerddon yw Aisling yn wreiddiol. Mae'n gweithio fel Swyddog Bioamrywiaeth i Gyngor Gwynedd. Rhaid wrth siarad Cymraeg gyda cydweithwyr er mwyn magu hyder, yn ôl Aisling, sy'n mwynhau mynydda, badminton a bywyd gwyllt yn ei amser hamdden.
Brodor o Gaeredin yw Cameron, ond bellach mae o wedi ymgartrefu yn Llanrug. Maen Rheolwr y We gyda'r Cyngor ers 2002 ac mae o wedi mynychu gwersi Cymraeg ers hynny.
Cyngor Gwynedd