BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pigion
Matty Murphy yn Safle Monitro Amgylchedd EryriCadw llygad amgylchedd Eryri
Bydd ychwanegiad newydd i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn rhoi cyfle i'r cyhoedd gael cipolwg ar yr amodau tywydd ar Yr Wyddfa, tra'n parhau i gasglu data ar gyfer gwaith ymchwil amgylcheddol tymor hir.
Ers 1995 mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi bod yn cynnal safle monitro amgylcheddol fel rhan o Rwydwaith Newid Amgylcheddol y Deyrnas Unedig. Nod y rhwydwaith yw monitro'r amgylchedd yn y tymor hir drwy edrych ar hinsawdd ac ecoleg ledled y DU. Mae safle'r Wyddfa wedi bod yn weithredol ers wyth mlynedd bellach ac wedi'i sefydlu'n gadarn fel un o bum safle uwchdir yn y DU, ar unig safle ar y ddaear yng Nghymru.

Cyflwynwyd gwe dudalennau yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y prosiect yn awr, a chyswllt electronig i'r orsaf dywydd. Mae'r safle wedi'i leoli tua 500 metr uwchben lefel y môr ar Diffwys, un o'r copaon pedol o dan gopa'r Wyddfa. Trosglwyddir data o'r safle bob awr, gan gofnodi gwybodaeth am y tymheredd, glawiad a chyfeiriad a chyflymder y gwynt. Mae'r orsaf dywydd yn casglu data gwerthfawr sy'n cyfrannu i'n dealltwriaeth o newidiadau amgylcheddol, ar y cyd a'r arolygon o blanhigion ac anifeiliad. Ewch i'r wefan yma a dilynwch y cyswllt ar gyfer Gwyddor Daear.

Dywedodd Clive Walmsley, Ymgynghorydd Newid Amgylcheddol CCGC: "Nod y Rhwydwaith Newid Amgylcheddol yw canfod newidiadau amgylcheddol tymor hir, megis effeithiau newid yn yr hinsawdd a llygredd. Gwir gryfder y rhwydwaith yw amrediad y cofnodion a gesglir, o dymheredd a glawiad i newidiadau yn y llystyfiant a nifer y gloynnod byw. Yna gellir defnyddio'r data i edrych ar berthnasoedd, megis rhwng yr hinsawdd a byd pethau byw. Gyda data wedii gasglu dros 8 mlynedd hyd yma, mae safle Rhwydwaith Newid Amgylcheddol Yr Wyddfa yn datblygu i fod yn ffynhonnell ddata amgylcheddol tymor hir mwyaf gwerthfawr Cymru.

Dywedodd Matt Murphy, Rheolwr Safle Rhwydwaith Newid Amgylcheddol Yr Wyddfa: "Bydd y tudalennau newydd ar y we yn rhoi syniad o'r tywydd i bobl cyn iddynt gychwyn o'u cartrefi. Gallai fod yn arweiniad defnyddiol os caiff ei ddefnyddio ar y cyd â rhagolygon tywydd lleol. Serch hynny, rhaid pwysleisio y gall yr amodau tywydd ar Yr Wyddfa newid yn sydyn ac yn ddirybudd."

Cyngor Cefn Gwlad Cymru


Datganiadau i'r wasg gan sefydliadau allanol yn ymwneud â gogledd orllewin Cymru yw'r rhain. Barn a geiriad y corff a gynhyrchodd y datganiad yn unig a geir yma.

0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy