BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pigion
Glöynnod byw ar flodyn buddleaBywyd gwyllt yn ennill gwobrau
Er mwyn annog garddwyr Eryri i ddenu mwy o fywyd gwyllt i'w gerddi, cynigir £400 mewn cystadleuaeth sy'n chwilio am "Yr Ardd Bywyd Gwyllt Orau yn Eryri"
Dechreuodd yr ymgyrch i ddenu mwy o adar, ieir bach yr haf, draenogod, a chreaduriaid eraill i erddi Eryri ym mis Awst 2002, a'i fwriad yw rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd am ffyrdd a fydd yn eu galluogi i helpu gwarchod a datblygu bioamrywiaeth Eryri yn eu gerddi. Fel rhan o'r ymgyrch, mae Partneriaeth Garddio Bywyd Gwyllt Eryri yn cynnal cystadleuaeth, a fydd yn gwahodd unigolion, cymunedau, ysgolion a busnesau i gystadlu am wobr o £200 ym mhob categori a gwobr ychwanegol o £200 am yr 'Ardd Bywyd Gwyllt Orau yn Eryri'.

Dywedodd Anna Williams, y swyddog project a benodwyd yn ddiweddar: "Mae'n bleser gweld pobl yn gwneud ymdrech i ddenu bywyd gwyllt i'w gerddi, a rhai dulliau syml o wneud hynny yw trwy dyfu planhigion llawn neithdar ar gyfer glöynnod byw, llwyni llawn mwyar ar gyfer adar, gwneud eich compost eich hun, gosod blychau adar a blychau ystlumod a defnyddio llai o blaladdwyr yn eich gardd. Gweithiwch law yn llaw â natur, gwyliwch natur, ymlaciwch a gobeithio y llwyddwch i fwynhau nifer fawr o ymwelwyr i'ch lloches dawel".

Dyddiad cau y gystadleuaeth eleni yw 18 Mehefin ac fe gynhelir y seremoni wobrwyo ar 14 Gorffennaf ym Mhortmeirion. Y beirniaid fydd Nigel Brown, Gerddi Treborth (Prifysgol Cymru), Anna Williams (Partneriaeth Garddio Bywyd Gwyllt Eryri), Rod Gritten a Kate Williamson (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri), Aisling Carrick, (Cyngor Gwynedd) a Becky Groves, (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy).

Am ragor o fanylion am y gystadleuaeth, cysylltwch ag Anna Williams ar 01766-770274 neu [email protected].

Parc Cenedlaethol Eryri


Datganiadau i'r wasg gan sefydliadau allanol yn ymwneud â gogledd orllewin Cymru yw'r rhain. Barn a geiriad y corff a gynhyrchodd y datganiad yn unig a geir yma.

0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy