| Rydym oll yn cofio cael ein cosbi am gamymddwyn yn yr ysgol, boed hynny efo'r gansen, ysgrifennu cant o linellau neu orfod aros ar ôl yr ysgol. Ond ydych chi erioed yn cofio cael eich cosbi am siarad yn Gymraeg? Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd nifer o blant yn cael eu cosbi am hyn. Mae'r arddangosfa hon yn canolbwyntio ar hanes a chefndir y Welsh-Not - bloc bach o bren, a fyddai'n cael ei roi i blentyn am siarad Cymraeg yn yr ysgol. Yna, byddai'r disgybl a gafodd ei ddal yn siarad Cymraeg yn gwisgo'r Welsh-Not nes byddai plentyn arall yn siarad yr iaith. Pan fo rhywun yn gafael yn y Welsh-Stick, fel y cafodd ei alw, byddent yn cael y gansen neu gosb mewn ffurf arall. Mae'r Arddangosfa'n cynnwys gwaith prosiect gan ddisgyblion Blynyddoedd 3, 4, a 5 Ysgol Bro Cernyw. Hefyd wedi eu benthyca o'r ysgol mae gwrthrychau a phethau cofiadwy, sy'n cynnwys lluniau o'r hen ysgol, Ysgol Llangernyw, hen lechi ysgrifennu, a'r Welsh-Not, a fyddai'n cael ei ddefnyddio yn Ysgol Llangernyw. Mae'r arddangosfa'n seiliedig ar ymateb y plant tuag at y defnydd o'r Welsh-Not a phwysigrwydd eu mamiaith. Mae'r arddangosfa'n dechrau ar 1 Mai 2004 yn Amgueddfa Syr Henry Jones, Llangernyw. Mae ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Gwener a Gwyliau'r Banc 10.30 - 13.00 a 14.00 - 17.00, dydd Sadwrn a dydd Sul 14.00 -17.00. Noddir y lle arddangos dros dro newydd gan Gronfa Allweddol Conwy. Menter Ewropeaidd yw Cronfa Allweddol Conwy sy'n cefnogi prosiectau cymunedol lleol. Cyngor Conwy
 |