| Mae'r safle pedair erw a ddewiswyd gan Lywodraeth y Cynulliad yn ffurfio rhan o ardal helaeth lle arferai gwaith Hotpoint fod. Prynodd WDA y tir i ddechrau proses ailddatblygu. Ers hynny mae'r Awdurdod wedi trosglwyddo'r ardal drwy ddymchwel adeiladau ffatri a glanhau tir llygredig. Mae'r WDA yn buddsoddi tua £2.5 miliwn ar hyn o bryd i osod ffyrdd a gwasanaethau newydd. Dywedodd Chris Farrow, Cyfarwyddydd Gweithredol Gogledd Cymru y WDA: "Rydym wedi gorfod cynnal prosiect adfer tir anodd iawn i ddod â'r safle strategol pwysig hwn yn ôl i ddefnydd. Rydym yn hynod falch fod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ei ddewis ar gyfer diben a fydd yn helpu i newid y canfyddiad o Gyffordd Llandudno. "Bydd y ganolfan newydd a'r swyddi y bydd yn eu darparu yn chwistrellu bywyd newydd i'r economi lleol ac yn helpu i gyflawni ein gweledigaeth o ddyfodol newydd ar gyfer y rhan hon o Gonwy. "Credwn y gall Cyffordd Llandudno ddod yn ganolfan busnes a hamdden bwysig wrth ochr trefi eraill yn y Gogledd lle mae'r WDA yn buddsoddi mewn ailddatblygu ac adfywio."
 |