| Mae S4C wedi cadarnhau nifer o'r enwau ar gyfer y cyngerdd a gynhelir nos Iau, 24 Mehefin (7.30pm) i ddathlu cyfraniad y gantores o Ynys Môn dros y 40 mlynedd diwethaf. Mae'r sêr ar gyfer y cyngerdd, a ddarlledir dros y Nadolig ar S4C, yn cynnwys Dai Jones, Llanilar, Cefin Roberts a Chôr Glanaethwy, Dewi Ellis Jones, Côr Meibion Maelgwn, yn ogystal ag Aled Jones a Margaret Williams ei hun. Fe fydd yr arian a godir trwy'r gwerthiant tocynnau £5, sydd ar gael rwan trwy ffonio Theatr Gogledd Cymru ar 01492 872000, yn mynd tuag at elusen S4C ar gyfer 2004, Barnardo's Cymru. Dywed trefnwyr y cyngerdd, Mr Producer a'r cwmni cynhyrchu Teledu Apollo, bod rhagor o enwau mawr, gan gynnwys un grwp rhyngwladol, i'w cadarnhau yn ystod yr wythnosau nesaf. Meddai Stifyn Parri, yr impresario adnabyddus, o Mr Producer, "Mae Margaret Williams yn gymaint o seren yn y byd showbiz yng Nghymru fel bod amrywiaeth anhygoel o sêr yn awyddus i gymryd rhan. Mae rhagor o enwau mawr i ddod a bydd ambell syrpreis ar y noson hefyd. Yr hyn y gallwn addo yw noson o glitz a glamour sy'n gweddu Margaret, un o divas Cymru." Ychwanega Margaret Williams, "Rwy'n edrych ymlaen yn ofnadwy at y cyngerdd hwn yn Llandudno. Fe fydd yn gyfle gwych i berfformio gyda rhai o dalentau mawr Cymru a thu hwnt ac yn siawns imi ddiolch i bawb fu'n fy nghefnogi dros y 40 mlynedd diwethaf. Mae'n flwyddyn gyffrous iawn imi ac mae'r cyngerdd hwn yn sicr yn uchafbwynt." Darlledir y cyngerdd mawreddog ar S4C fel rhan o becyn o raglenni i ddathlu cyfraniad Margaret Williams i 40 o flynyddoedd yn y byd adloniant. S4C
 |