BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pigion
Einir Pritchard o Faentwrog - enillydd y raffl yn lansiad Cynllun Gwyliau Cymraeg.Denu'r Dysgwyr
15 Mawrth 2004
Pa ffordd well o ddysgu Cymraeg na threulio cyfnodau gyda phobl sy'n siarad yr iaith o ddydd i ddydd.
Dyna yw neges menter newydd o'r enw Cynllun Gwyliau Cymraeg a sefydlwyd er mwyn denu dysgwyr i fwynhau gwyliau yng Ngwynedd a Chonwy.

Syniad y Mentrau Iaith lleol yw'r cynllun ac maen nhw wedi canfod mannau aros yn yr ardal sy'n darparu ar gyfer dysgwyr y Gymraeg gan roi cyfle iddynt ymarfer eu hiaith newydd.

"Mae denu rhagor o ddysgwyr i ddod am wyliau i gadarnleoedd yr iaith yn ffordd wych o hyrwyddo'r Gymraeg," meddai Carys Dafydd o Fenter Iaith Gwynedd.

"Mae o'n rhoi cyfle i ddysgwyr ymarfer a gwella eu hiaith ac mae'n ffordd o hybu'r economi lleol ar yr un pryd," ychwanegodd.

Mae llyfryn eisoes wedi'i gynhyrchu sy'n cynnwys llety, bwytai ac atyniadau twristaidd yn yr ardal lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad. Mae'r wybodaeth ar gael hefyd ar wefan newydd: www.gwyliaucymraeg.com neu www.holidaysinwelsh.com.

"Mae'r cyfuniad o harddwch naturiol eithriadol ac ardaloedd lle mae dros 70% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg yn golygu bod gogledd orllewin Cymru yn ddelfrydol ar gyfer menter or fath," meddai Dafydd Roberts o Amgueddfa Lechi Llanberis fu'n rhan o lansio'r fenter newydd yn swyddogol dros y Sul.

"Y diwydiant llechi oedd y diwydiant mwyaf Cymraeg yng Nghymru felly mae'n addas ein bod ni yn yr amgueddfa'n gwneud defnydd llawn o'r iaith Gymraeg wrth ddehongli'r diwydiant hwnnw," ychwanegodd.

Y cam nesaf fydd cydweithio gyda darparwyr allweddol yn y diwydiant ymwelwyr yn yr ardal gan gynnig canllawiau ar sut i ymateb i anghenion ieithyddol dysgwyr.

"Mae mor bwysig ein bod ni i gyd â'r amynedd a'r dyfalbarhad i gynnig pob anogaeth i ddysgwyr," ychwanegodd Carys Dafydd.

"Mae mor hawdd troi yn ôl i siarad Saesneg, ond mae'n rhaid rhoi pob cyfle i ddysgwyr ymarfer yr hyn iddyn nhw ei ddysgu yn y gwersi," meddai.

"Un o'r pethau sy'n llesteirio dysgwyr wrth ddysgu'r iaith yw'r diffyg cyfle i'w defnyddio.

"Rydan ni eisiau rhoi cyfle i ddysgwyr gael mwynhau harddwch yr ardal, cael blas ar ddefnyddio'r Gymraeg, bod yn rhan o'r diwylliant mewn tafarn hwyliog - a phrofi croeso Cymraeg ar ei orau," meddai Carys.

"Drwyddo draw mae'r cynllun yma'n gyfle heb ei ail i hyrwyddo traddodiad diwylliannol cyfoethog a harddwch naturiol Gwynedd a Chonwy - ac yn enghraifft o dwristiaeth gynaliadwy ar ei orau," ychwanegodd.

I ddathlu'r lansio cynhaliwyd raffl am ddim gyda'r brif wobr o noson i ddau yng ngwesty moethus Portmeirion yn cael ei ddyfarnu i Einir Pritchard o Faentwrog.

Gellir cael gopi o'r daflen trwy gysylltu â Carys Dafydd, Menter Iaith Gwynedd, 38 Stryd Fawr, Caernarfon, Gwynedd LL55 1RH ffôn 01286 674112 neu e-bost gwyliaucymraeg@cymad.org

Utgorn


Datganiadau i'r wasg gan sefydliadau allanol yn ymwneud â gogledd orllewin Cymru yw'r rhain. Barn a geiriad y corff a gynhyrchodd y datganiad yn unig a geir yma.

0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy