| Cafodd llecyn ger y dref ei enwi'n Fairy Glen a'i droi'n atyniad i ymwelwyr, gan godi goleuadau bach lliwgar yno, dros 50 mlynedd yn ôl. Yn awr, mae'r lle wedi'i adfer i'w hen ogoniant, diolch i grant o £90,000 gan Cydcoed - Woods for All. Mae Ffederasiwn Amgylcheddol Hen Golwyn, sy'n gweithio i adfywio'r dref, wedi troi cwm coediog Afon Colwyn yn adnodd gwerthfawr i'r gymuned unwaith eto. Cynhaliwyd cyfarfod arbennig i agor Llwybr Natur a Hanes Hen Golwyn, sef llwybr dwy filltir sy'n ddolen gyswllt rhwng y Promenâd, Gerddi Tan y Coed, hen bentref Llawr Pentre a'r Fairy Glen. Torrwyd y rhuban i agor y llwybr yn swyddogol gan Lywydd y Ffederasiwn Thelma Roberts a Bob Griffiths o Cydcoed ac aethant ymlaen i arwain y criw cyntaf o bobl ar hyd y llwybr newydd. "Mae'r llwybr newydd, a'i banelau dehongli, yn rhoi golwg i ni ar fyd natur a hanes yn yr ardal ac mae'n annog teuluoedd ac ymwelwyr i gerdded i'r Fairy Glen i weld y gwaith ardderchog a wnaed yno," meddai Thelma. Llwyddwyd i gyflawni prosiect y Fairy Glen gan i'r cynllun gael grant 100 y cant gan Cydcoed, sef cynllun grantiau gwerth £16 miliwn gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru sy'n cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yn ôl Swyddog Cydcoed, Bob Griffiths, sy'n gyfrifol am drefnu rhaglen Cydcoed yn y Gogledd: "Mae'r gymuned gyfan yn cefnogi'r prosiect hwn, a gyda chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Tref Bae Colwyn, Princes Trust Cymru ac eraill, maent wedi gwneud gwaith ardderchog. "Mae'r arian a gafwyd gan Cydcoed yn golygu y gellir rheoli'r safle er budd y gymuned, ac fel coetir ger y traeth y gall ymwelwyr ei fwynhau," meddai.
 |