BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pigion
Y bwyd sy'n creu y person!
Tynnwyd ychwanegion a lliwiau oddi ar fwydlen pob ysgol gynradd yng Nghyngor Conwy ac mae'r canlyniadau cadarnhaol yn amlwg yn barod.
Crewyd y fwydlen sydd ar gael ymhob ysgol gynradd ym Mwrdeistref Sirol Conwy yn dilyn llwyddiant prosiect llwyddiannus yn Ysgol Deganwy dros flwyddyn yn ôl. Edrychodd y prosiect ar effaith ychwanegion a lliwiau bwyd ar ymddygiad a bywiogrwydd plant.

Mae'r canlyniadau manwl yn cael eu dadansoddi a'u casglu, ond mae'n glir bod y plant wedi derbyn y fwydlen; mae ymddygiad wedi gwella a gwerthiant prydau ysgol wedi cynyddu yn arwyddocaol.

O ganlyniad i'r llwyddiant yn Ysgol Deganwy, mae staff Arlwyo Conwy wedi gweithio gydag ysgolion, dietwyr, darparwyr a dosbarthwyr i ganfod cynnyrch a chynhwysion sy'n rhydd o liwiau a blas artiffisial yr amheuir eu bod yn cyfrannu i ymddygiad bywiog a rhai alergeddau.

Dywedodd Carol Davies, rheolwr arlwyo Conwy: "Cawsom ein hannog gan ymateb cadarnhaol cynhyrchwyr mawr sydd wedi bod yn barod i addasu ac adolygu cynhwysion a rysáit i gyfarfod ein hanghenion.

"Bu'n bosibl creu bwydlen i 5,000 o ddisgyblion sy'n bresennol yn cymryd pryd sy'n cydymffurfio â Chanllawiau Maeth Cenedlaethol; y gellir ei baratoi o fewn targedau ariannol pendant ac yn fwy na dim yn apelio at blant. Gwnaeth cogyddion ysgol a staff cegin ymdrech fawr i sicrhau llwyddiant y lansiad trwy ysgolion y sir."

Oherwydd llwyddiant y cynllun gobeithir y bydd cynhyrchwyr bwyd yn cydnabod mantais lleihau ymhellach neu gael gwared o liwiau neu ychwanegion diangen yn eu dulliau cynhyrchu ac yn parhau i wella ac ymestyn caffaelrwydd bwyd naturiol iach.

Cyngor Conwy


Datganiadau i'r wasg gan sefydliadau allanol yn ymwneud â gogledd orllewin Cymru yw'r rhain. Barn a geiriad y corff a gynhyrchodd y datganiad yn unig a geir yma.

0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy