| Mae cantorion a cherddorion adnabyddus fel Gwyn Hughes Jones, Caryl Parry Jones, Elin Fflur ac Arfon Wyn wedi cyfrannu at y CD newydd i blant oed meithrin, Helpa Fi Wneud Cân. Bydd copi o'r CD yn cael ei roi i bob grŵp meithrin yng Nghymru a'r gobaith ydy y bydd yn rhoi cyfle i blant fwynhau gwledd o gerddoriaeth heintus a hwyliog. Bydd hefyd ar werth i'r cyhoedd. Cynhyrchwyd y casgliad gan brosiect Miri Meithrin o dan y cynllun YMAS (Ynys Môn Ardal Swnllyd) - cynllun a sefydlwyd ar Ynys Môn gyda help noddwr anhysbys o Lundain. Mae'n un o dros ugain o ardaloedd sydd wedi cael arian tebyg drwy'r elusen Youth Music UK i roi hwb cerddorol i blant sy'n byw mewn ardaloedd di-freintiedig ac na fyddai fel arall yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau cerddorol. Yn ogystal â phrosiect Miri Meithrin, mae'r arian wedi ei wario ar brosiectau ar gyfer plant ag anghenion arbennig, canu gospel, cerddoriaeth roc ac uned symudol sy'n rhoi llwyfan i grwpiau a pherfformiadau mewn digwyddiadau yn y gymuned (uchod). Menter Môn, Theatr Ieuenctid Môn a'r Cyngor lleol sy'n gweithredu cynllun YMAS ar yr ynys. Mae'r llyfryn sy'n rhan o glawr Helpa Fi Wneud Cân yn cynnwys geiriau pob cân yn Gymraeg a Saesneg a'r lluniau yn cynnig awgrymiadau am rai symudiadau y gellid eu defnyddio wrth ganu'r caneuon. Meddai Mari Pritchard, un o brif swyddogion Menter Môn: "Mae'r llyfryn yn lliwgar ac mae'r gerddoriaeth yn fywiog fel bod pob plentyn, lle bynnag mae'n byw ar yr ynys, beth bynnag ei gefndir, yn cael rhywfaint o gyswllt efo cerddoriaeth. "Mae'n bwysig inni wneud yn siŵr fod plant yn clywed pob math o wahanol gerddoriaeth a honno'n gerddoriaeth fyw. "Yn ogystal â jazz a phob a cherddoriaeth mwy traddodiadol, roedden ni eisiau cyffwrdd â cherddoriaeth glasurol hefyd." Am ragor o fanylion ffoniwch 01248 725730 neu gysylltu drwy'r post ag: YMAS, Llys Goferydd, Menter Môn, Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni, LL77 7XA. Mae'r CD ar gael trwy gysylltu ar y cyfeiriad uchod neu mewn siopau lleol ac yn costio £10.00. Bydd yr elw yn mynd yn ôl i goffrau YMAS.
 |