| Mae offer darlledu a thechnoleg gwybodaeth ar y bws, ac yn ogystal â darlledu o pob cwr o Fôn, Conwy a Gwynedd, bydd cyfle i chi ymuno â'r hwyl ar fwrdd y bws, a chymryd rhan mewn llu o weithgareddau a digwyddiadau. Un o brif amcanion y bws yw dod â'r BBC yn agosach at y cymunedau lle rydych chi'n byw. Os ydych chi am gyfrannu i wefan Lleol, er enghraifft, mae'r cyfrifiaduron sydd ar y bws yn eich helpu chi i wneud hynny, yn ogystal ag offer fel sganwyr a chamerâu digidol. Ceir manylion ymweliadau ac amserlen y bws fan hyn.
 |