Lawnsiodd y grŵp lleol, Ffatri Jam, eu hymgyrch ar ddydd Gŵyl Dewi efo baner wedi ei dylunio'n arbennig gan Rob Roberts.Maen nhw am ddatblygu'r neuadd yn ganolfan ar gyfer cerddoriaeth, y celfyddydau ac addysg a fyddai'n cynnwys stiwdio recordio, cerddoriaeth fyw, gwe-gaffe, dosbarthiadau addysg i oedolion a bingo.
"Fel pobl ifainc sy'n dod o'r Blaenau, mae'r dref yn golygu lot inni," meddai Leah Pitts, aelod o Ffatri Jam.
"Mae'n dref sy'n gyfoethog yn ei hanes, ac mae Neuadd y Farchnad yn rhan o hanes y Blaenau. Mi fuasen ni'n licio gweld y Neuadd yn cael ei hadfer fel bod yna bwrpas iddi hi unwaith eto."
Sefydlwyd Ffatri Jam yn 2003 i roi llais i bobl ifanc leol sydd eisiau bod yn rhan o brosiect Neuadd y Farchnad.
Dewiswyd yr enw am ddau reswm: mae'n awgrymu'r math o weithgaredd cerddorol anffurfiol y mae'r bobl ifanc am ei weld yn y Neuadd a hefyd, bu'r adeilad yn cynhyrchu jam, yn llythrennol, ar un adeg!
Yn ôl yr aelodau, mae'r logo, sy'n dangos potyn jam yn ffrwydro, yn cynrychioli "ffrwydriad o greadigrwydd ifanc yn torri allan o'r hen adeilad".
Ychwanegodd Leah Pitts: "'Dan ni'n teimlo bod angen canolfan fel hyn sydd ar agor i bawb. 'Dan ni'n trïo denu cefnogaeth ac aelodau. Mae'n gwefan ni wedi mynd yn fyw erbyn hyn ar www.ffatrijam.org a dan ni'n gofyn i bawb sydd eisio cefnogi'r prosiect i gysylltu â ni."
Yr elusen leol, Menter y Moelwyn, sydd yng ngofal y prosiect i adfer y neuadd ac mae wedi cael cymorth ariannol gan y Cynulliad Cenedlaethol a Chyngor Gwynedd i'w helpu i ddatblygu'r neuadd a chymryd perchnogaeth ohoni.
Mae'r Fenter wedi cynhyrchu astudiaeth dichonoldeb a chynllun busnes ac wedi sicrhau grant i gyflogi penseiri i ddechrau'r gwaith o gynllunio'r adeilad.
Ymhlith y grwpiau lleol sy'n cefnogi'r fenter mae Coleg Harlech, Coleg Meirion Dwyfor, y cerflunydd byd-enwog David Nash, cwmni cydweithredol o gerddorion, y Gwallgofiaid, Prosiect Ymbarel/Barnardos, Tanymaen a Dawns i Bawb.
Mae cwmni McAlpines, sydd yn rhedeg Chwareli yr Oakeley a Chwt y Bugail, hefyd wedi addo £30,000 i'r prosiect os yw'n mynd rhagddo.
Dywedodd Eifion Williams, Cadeirydd Menter y Moelwyn: "Mae brwdfrydedd y bobl ifainc yma sydd yn aelodau o Ffatri Jam, yn ogystal â llwyddiant y digwyddiad Diwrnod y Bobl wnaethon ni ei drefnu ddwy flynedd yn ôl ac arddangosfa wych David Nash cyn hynny, yn dangos yn glir beth yw potensial y prosiect.
"'Dan ni'n teimlo rŵan ein bod ni wedi gwneud ein gwaith cartref, ac angen cefnogaeth y gymuned leol a gwleidyddion lleol i sicrhau fod y prosiect yn llwyddo."
Mae mwy o wybodaeth am yr ymgyrch i'w chael ar wefan Ffatri Jam