Meddai'r ysgrifenyddes Helen Kelly: "Mae'r rhaglen yn cynnwys nosweithiau ymarferol, siaradwyr gwadd, cystadlaethau mewnol yn ogystal â chystadlu gyda chlybiau camera eraill. "Hefyd fe drefnir tripiau ac yn flynyddol yn ystod yr haf, rydym yn cael diwrnod allan gydag aelodau clwb camera Grwst (Llanrwst). "Mae aelodaeth y clwb yn agored i bawb sy'n awyddus i ddatblygu ei ffotograffiaeth a chroesawir ymwelwyr hefyd." Am fwy o fanylion cysylltwch â: Maldwyn Williams, cadeirydd, ar 01766 831362 neu Helen Kelly, ysgrifenyddes, ar 01766 540231 ar ôl 6.00pm. Ewch i weld rhai o luniau'r clwb
 |