BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Aelodau Grŵp Ad LibGrŵp Drama Ad Lib
Beth sydd mor arbennig am grŵp drama Ad Lib? Delyth Lloyd Williams sy'n egluro.
"Mae grŵp Ad Lib wedi bodoli ers naw mlynedd ac yn agored i blant heb unrhyw glyweliad.

"'Da ni'n derbyn plant sydd yn abl iawn a rhai gydag anableddau - ond mae nhw'n gymaint rhan o'r grŵp a does neb yn sylwi.

gwrando Jonsi yn holi Delyth Lloyd Williams ar Radio Cymru

"Mae'r grwp wedi datblygu. Dyma ni'n cychwyn gyda chwech o blant ac mae 35 o blant erbyn hyn - ond doedda' ni erioed wedi bwriadu mynd yn fawr.

"Oherwydd mae gynno ni gymaint o groesdoriad o blant, mae nhw angen sylw. Aelodau Grŵp Ad Lib

"'Dwi hefyd yn ymwybodolbod grwpiau lleol fel Glanaethwy ac Anna Baker yn cyfrannu at grwpiau mawr a does dim gofyn i ni fynd yn fawr.

"A dweud y gwir mae gennym restr aros.

"'Da ni'n galw ein hunain yn grŵp cymunedol oherwydd 'da ni'n ceisio rhoi rhywbeth yn ôl.

"'Da ni 'di bod mewn cartrefi hen bobl ac mae'r plant wedi bod yn helpu mewn partïon i blant anabl yng Nghanolfan Deiniol ym Mangor.

"'Dwi'n teimlo eu bod i gyd yn cael lles wrth wneud hyn.

"'Da ni ddim yn cymryd plant o dan saith fel bod gynno ni grŵp sy'n gwneud hefo'i gilydd.

"Y syniad oedd eu bod yn gorffen am ddeunaw, ond maent yn gwrthod mynd ac yn aros hefo ni.

"Mi fydd yr aelod hynaf yn ugain ym mis Ionawr a troi'n athrawes fydd hi wrth i'r amser fynd yn ei flaen.

"Mae'r criw wedi bod yn ymarfer ar gyfer sioe Queen - 'We Will Rock You' yn Theatr Gwynedd.

"Dyw rhai ohonynt erioed wedi canu a dawnsio o'r blaen ac wedi meistroli.Mae yna hwyl mawr i'w gael.

"'Ry' ni 'di cael e-bost gan Brian May o Queen yn dymuno'n dda i ni."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy