BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwyliau

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llwyfan WakestockWakestock
Wrth i ŵyl sgilfyrddio mwyaf Ewrop ddychwelyd i Ben Llŷn am y degfed tro, rhwng 10-12 Gorffennaf, edrychwn ymlaen at yr hwyl ar y llwyfan ac ar y môr - yn yr haul, gobeithio!

Mae Huw Stephens, DJ Radio Cymru/Radio 1, yn dipyn o arbenigwr ar sut i oroesi gwyliau erbyn hyn.

"Fy nhip gorau yw ewch a welis - a menig, i dynnu nhw i ffwrdd! Hefyd, ewch i weld bandiau nad ydych wedi clywed am o'r blaen - mi wnewch chi fwynhau."

Mae Huw wedi mwynhau rhoi rhestr o fandiau a DJs at ei gilydd i chwarae llwyfan Relentless Live ar nos Sul Wakestock eleni.

"Mi fydda'i hefyd yn gwneud set DJ ar y nos Sul. Dwi fel arfer yn rhoi'r set list at ei gilydd munud olaf, er dwi 'fo syniad o beth i chwarae. Rhywbeth i gadw pobl ar eu traed ar y noson olaf!"

"Ddaru Wakestock ofyn i mi dewis bandiau ar y nos Sul fydd yn cael pobl yn dawnsio a theimlo'n hapus.

Mae Huw hefyd yn falch fod Y Promatics, band lleol o Ddyffryn Nantlle, am fod yn rhan o'i noson. "Maen nhw wedi gwneud sesiwn ar C2 i mi ac maen nhw'n wych.

"Er bod Wakestock yn ŵyl fawr efo lot o fandiau mawr Saesneg erbyn hyn, maen nhw wastad wedi rhoi cyfle i fandiau o Gymru a rhai sy'n chwarae miwsig Cymreig, sy'n wych."

Y Promatics Mae Dafydd Foxhall, drymiwr Y Promatics, yn gwerthfawrogi'r cyfle i chwarae ar lwyfan Huw Stephens. "Mae cael chwarae yn Wakestock jest yn superb. Dyma ŵyl fwyaf Cymru erbyn hyn, a'r gig mwyaf erioed i ni. Dwi'n cofio gweld y Zutons yna cwpl o flynyddoedd yn ôl a rŵan mi fyddaf yn chwarae yn yr un ŵyl a nhw!"

Wrth ddisgrifio naws ei fand, meddai Dafydd, "nid oes yna lot o fandiau fel ni yng Nghymru. Rydym yn ffans mawr o Bloc Party ac yn teimlo nad oes yna dim fel yna ar hyn o bryd. Ein bwriad yw gwneud rhywbeth bach yn wahanol."

Ond mae o wedi bod yn sialens i'r band, ddaru gyfarfod yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, aros gyda'i gilydd ar ôl iddynt wasgaru dros y wlad. "Mae o wedi bod yn hynod o anodd i ni baratoi gan fod dau aelod o'r band yn byw yn Nottingham, ac un arall yn y brifysgol yn Aberystwyth. Nid yw ein canwr yn dod adref tan wythnos cyn yr ŵyl, a dwi'n gweithio, felly does 'na ddim lot o amser i baratoi! Ond 'da ni'n defnyddio lot o synths a backing tracks sy'n handi i fi gan fy mod i efo drymiau electronig i ymarfer adra."

Mae Dafydd wedi cael y profiad o ymweld â Wakestock fel ffan a drwy ei waith fel peiriannydd sain. "Roeddwn yn gweithio yn Wakestock yn 2008 ac mi ges i weld yr ŵyl o safbwynt un sobor tu ôl i'r llwyfan. Mae o'n wych. Coaches yn y bore yn mynd a chi i Bwllheli i wylio'r sgilfyrddio, sy'n brofiad yn ei hun, heb sôn am y gerddoriaeth! Cyfarfod pobl o Hawaii, Awstralia, Seland Newydd - mae'n nuts pa mor fyd eang yw'r ŵyl. Felly fy nghyngor i yw trio sicrhau eich bod yn cael amser i fynd i weld y sgilfyrddio - mae o'n wych."

Ond nid oes rhaid i chi fynd lawr i'r traeth i weld 'bach o sgilfyrddio. Dyma Rebecca Tappin, un o'r tîm trefnu, i egluro sut mae'r pwll ar y maes yn gweithio. "Mae o fwy fel dau bwll, un yn ddyfnach na'r llall, gyda rheiliau trwy'r canol. Mae yna winsh sy'n tynnu'r sgil fyrddwyr ar hyd y rheiliau er mwyn iddynt wneud triciau yn y dŵr."

Yn ôl i draeth Pwllheli, ac mi fydd pencampwr y byd, Nick Davies, yn cystadlu yn erbyn Dan Nott, sydd eisoes wedi ennill teitl Relentless Wakestock dair gwaith, ynghyd a sawl un o Awstralia, America a Seland Newydd.

Rhagor o wybodaeth:

Lleoliadau
Mae'r adloniant fel arfer yn digwydd mewn tri lle:

  • Penrhos - Safle 40 erw gyda lle i dair mil o bobl wersylla, gyda'r holl gyfleusterau gofynnol ar gyfer gŵyl fawr. Yma mae yr holl adloniant gerddorol yn digwydd.
  • Traeth Abersoch - Yma cynhelir y cystadleuaeth ar gyfer sgilfyrddwyr pro kicker. Yn y gystadleuaeth hon mae'r byrddwyr yn cael eu tynnu ugain troedfedd i'r awyr i frwydro i fod yn bencampwr 'Big Air' yr ŵyl.
  • Marina Pwllheli - Mae'r prif gystadlaethau sgil fyrddio yn cael eu cynnal ym Marina Pwllheli sydd yn cael ei addasu'n bwrpasol at yr achlysur.

    Beth ydy sgilfyrddio?
    Fersiwn yr haf o eira fyrddio ydy sgilfyrddio. Mae'n gyfuniad o sgïo dŵr, bwrdd sglefrio, eira fyrddio a syrffio. Mae'r byrddiwr yn defnyddio bwrdd tebyg i un eira fyrddio ac yn cael ei dynnu gan gwch modur. Gan ddefnyddio'r tonau, neu'r llwybr mae'r cwch yn ei adael ar ei ôl yn y dŵr, mae'r byrddwyr yn perfformio pob math o driciau a throelliadau.


    Rhagor o Wakestock.


  • 0
    C20
    Pobol y Cwm0
    Learn Welsh0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy