| Roedd pâr anferth o drôns coch, gwyn a gwyrdd yn chwifio dros un babell ar y maes gyda llond lein ddillad o dronsys amryliw eraill yn cadw cwmni iddo tu allan. Y tu mewn i stondin Trôns Mistar Urdd, bu'r ddau artist Eleri Jones a Bedwyr Williams yn cynnal gweithdai addurno trôns gan groesawu unrhyw un, yn blant ac oedolion, i ymweld â'r stondin i greu gwaith celf unigryw. Drwy ddefnyddio dulliau traddodiadol a modern o argraffu, gyda chyfrifiadur, sganiwr a chamera, roedden nhw'n gweithio'n agos efo ymwelwyr i greu gweithiau celf unigol. Menter ar y cyd rhwng yr Urdd a chymdeithas ffilm y Rêl Institiwt o Ddyffryn Conwy ydy'r prosiect ac yn cadw golwg ar y babell gydol yr wythnos roedd Alun Williams, swyddog datblygu plant mewn angen yr Urdd yn y gogledd orllewin ac Iwan Williams o'r Rêl Institiwt.
Ar ddydd Sadwrn ola'r eisteddfod, gofynwyd i berchnogion y tronsys gerdded o gwmpas y maes yn eu pâr personol mewn parêd y tu ôl i'r prif drôns, a oedd wedi ei harwyddo gan enwogion yr ŵyl. Mae'r enillydd yn cael mynd â'r dilledyn anferth adref i'w drysori - gyda chaniatâd arbennig Mistar Urdd wrth gwrs ...
 |