BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwyliau

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Goroesi'r Sesiwn Fawr

Stonie a Rich o'r band The Loaded DiceOes gennych chi gyngor i'r rhai sydd am fynd i'r Sesiwn?

Sue: Os ydych am gampio, dewch a darn o tarp, pâr sbâr o drowsus a het - roedd yn rhaid i ni brynu'r rhain o'r siop heddiw!

Lee o'r tîm diogelwch: Bihafiwch eich hunain, galluogi i ni wneud cyn lleied o waith a phosib a bydd popeth yn grêt! Os ddim, byddwch yn gorfod ein hwynebu ni.

Stonie o'r band The Loaded Dice band: Gwnewch i fusnes lleol sgwennu hysbys ar eich cefn a chewch ddiod am ddim!

Gethin: Fel unrhyw ŵyl arall, dewch a chot law, wellies a het - dwi'n un practical!

Dilwyn: A chaniau o lager! Hefyd, gweithiwch allan pwy 'da chi am fynd i weld gan fod yna gymaint o lwyfannau ar y maes ac yn y dref.

Elin: Dewch a'ch wellingtons ac eli haul, os ydych yn lwcus! A digon o arian i fwynhau hefyd.

Gwenno a'i Thad, DylanDylan: Dewch yn llu! Yn enwedig ar bnawn dydd Sadwrn i gael gwerth eich pres. Teulu yn y pnawn, oedolion gyda'r nos. 'Da ni'n aros efo'r plant tan ryw wyth o'r gloch cyn cychwyn adra.


Ym mhle ydych yn cysgu yn ystod yr ŵyl?

Sally: Dwi wedi bod yma o'r blaen heb babell ond da ni pob tro yn cael amser gwych! Ddaru rywun, rhywle wastad adael i ni gysgu yn eu car!

Ted: Rydym ym maes pebyll Cefn Maelan, sy'n cael ei redeg gan Archie. Mae o'n foi hynod o glên, yn rhoi croeso mawr i bawb sy'n dod draw.

Gethin: Roedden ni am gampio, ond 'da ni ddim yn siŵr eto. Da ni reit roc a rôl - mi wnawn ni ffeindio rhywle i gysgu!

Elin: Dewch a bag cysgu cynnes! Mae'r maes pabell swyddogol rhyw hanner milltir o'r maes, felly ddim yn ddrwg - wel, bach o waith cerdded ar ôl noson fawr!

Beth ydych yn ei wneud os yw'n glawio?

Sally: Gwenwch a byddwch yn wlyb! Rydym yn Gymraeg - dim problem - rydym wedi hen arfer efo'r glaw. Ond gwnewch yn siŵr eich bod yn dod a phabell fawr efo chi i bawb allu eistedd ynddo os yw'n glawio.

Rich o'r band The Loaded Dice: Mwynhewch eich hunain! Jest dŵr ydy o. Does gennych chi nunlle arall i fynd!

Dilwyn: Chwerthin! Mae glaw yn neis, jest dŵr ydy o - dydy o ddim yn ddrwg i chi.

Dylan: Anelwch am babell neu'r bar, neu dewch ag ymbarél efo chi. Dydy o ddim yn sbwylio dim ar yr ŵyl.

Y pethau gorau am y Sesiwn...


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy