"Mi aeth hi'n wych yn 2005. Mi gawson ni noson gomedi yng nghlwb y Wellman's gyda Tudur Owen, Beth Angell, Bedwyr Rees a'r Ffarmwr Ffowc (Eilir Jones). "Ddaru ni hefyd gael gêm bêl-droed rhwng sêr y byd teledu a thîm ieuenctid Llangefni gyda 'Mr Picton' a 'George' yn gweiddi eu harweiniad o'r ochr! Yr ieuenctid ddaru ennill - ond ddim o lawer chwaith!
"Mi gawson ni wedyn ddwy noson ym mhafiliwn Sioe Môn - un gyda John ac Alun a Mojo a'r noson olaf gyda Bryn Fôn, Elin Fflur, y Moniars ac eraill.
"Eleni, rydyn ni'n gobeithio agor yr ŵyl ar y nos Fercher gyda noson yn yr iard y tu ôl i westy'r Bull ar y sgwâr, reslo yng nghanolfan hamdden Plas Arthur dan ofal Orig Williams ar y nos Iau a noson gomedi arall ar y nos Wener. Tro yma, bydd gig y noson olaf yng nghlwb pêl-droed Llangefni gan nad yw Sioe Môn yn gorffen tan y 16eg ac felly fydd y pafiliwn ddim yn barod ar ein cyfer." Edrych nôl dros ŵyl 2005 Cadeirydd yr ŵyl - Dylan Morgan, Llangefni: 01248 750218. Am docynnau (o'r gwanwyn ymlaen), ewch i'r Cwpwrdd Cornel, Llangefni, siop bapur newydd Guest, Llangefni, Recordiau'r Cob, Bangor neu Palas Print, Caernarfon.
 |