| Cefndir Sefydlwyd Eisteddfod Penrhyndeudraeth yn 1920, dan nawdd undeb y Gobeithluoedd. Daeth capeli'r ardal ynghyd i'w chefnogi, ac mae'r eisteddfod wedi denu cystadleuwyr bron heb seibiant ers hynny. Mae'r rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor yn dal i fod yn aelodau o'r capeli lleol, ac erbyn hyn enw swyddogol y cystadlu i bobl ifanc dan 21 mlwydd oed yw Eisteddfod Gadeiriol y Plant, Penrhyndeudraeth. Bydd gwahanol garedigion o'r ardal yn noddi'r gadair, un fechan a gaiff ei llunio gan grefftwr lleol i'r seremoni gadeirio draddodiadol. Bydd hefyd cystadlu am dlws y cerddor. Cysylltwch i ddiweddaru tudalen eich eisteddfod os gwelwch yn dda.
 |