| Atgofion Cefnfab am ennill cadair Llandderfel Cefndir Dechreuodd Eisteddfod Llandderfel yn 1898. Syniad cymdeithas leol i hybu buddiannau pobl ifanc ydoedd i gychwyn, a dyna pam y caiff ei galw yn Eisteddfod Nawdd Plant Derfel. Ar ddiwedd y 1800au, câi ei chynnal yn sied wair Fferm Plas Isa. Yna, yn y 1920au daeth DJ Williams, Llanbedr, yn brifathro ar Ysgol Llandderfel ac aeth ati i adeiladu cartref parhaol i'r eisteddfod, sef pafiliwn gyda digon o le i ddal corau a bandiau pres o'r ardaloedd cyfagos. Mae un traddodiad unigryw i'r eisteddfod sydd wedi para hyd heddiw. Am dri o'r gloch y p'nawn, dim ots beth sy'n digwydd ar y llwyfan, bydd pawb yn codi ar eu traed i ganu emyn Huw Derfel, Y Gŵr a fu gynt o dan hoelion. Byddai'r eisteddfod yma hefyd yn cael ei hadnabod fel Eisteddfod Gadeiriol y Groglith, Llandderfel ers talwm. Mae gan yr eisteddfod yma hefyd orsedd o fath, a defnyddir cleddyf arbennig yn seremoni draddodiadol y cadeirio. Ymhlith y rhai sydd wedi arwain yr eisteddfod yma mae Pat O'Bryan a Llwyd o'r Bryn. Hefyd, dyma'r gadair gyntaf i Gwenallt Llwyd Ifan ei hennill cyn mynd ymlaen gipio cadair Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 1999. Erbyn hyn, mae pafiliwn DJ Williams wedi ei addasu, a chaiff ei ddefnyddio fel neuadd y pentref. Bydd y plant yn dod i gystadlu i'r neuadd ar b'nawn yr eisteddfod, ac oedolion o'r ardal a thu hwnt gyda'r nos. Cysylltwch i ddiweddaru tudalen eich eisteddfod os gwelwch yn dda.
 |