Cefndir Cychwynnwyd cynnal yr eisteddfod yma ar 1 Tachwedd, 1975 yn Hen Neuadd Goffa Llanaelhaearn. Cafwyd y syniad yn wreiddiol gan bwyllgor Cyfeillion Antur Aelhaearn a fyddai'n edrych ar ôl ochr ddiwylliannol y fenter.Er i'r eisteddfod gyntaf fod yn llwyddiant mawr, bu'n rhaid iddi symud i Gapel y Babell y flwyddyn ganlynol pan benderfynwyd tynnu'r hen Neuadd Goffa i lawr. Credir mai'r eisteddfod oedd un o'r digwyddiadau olaf i'w cynnal yn yr hen adeilad. Mae Bryn Terfel yn gyn enillydd yma, yn ogystal â John Eifion, Siân Eirian a Dafydd Ieuan, sydd rŵan yn ddrymiwr gyda'r Super Furry Animals. Cysylltwch i ddiweddaru tudalen eich eisteddfod os gwelwch yn dda.
 |