Cefndir Cychwynnodd Eisteddfod Dyffryn Conwy yn 1927, er mai Cyfansoddiadau 1941 oedd y rhai cyntaf i gael eu cyhoeddi.Cyn symud i'r Ganolfan Hamdden yn Ysgol Dyffryn Conwy yn 1980 oherwydd costau, arferid cynnal yr eisteddfod yma mewn pabell yng nghae yr ysgol gynradd. Cafodd y babell ei chwythu i lawr yn 1963 oherwydd gwyntoedd cryfion ynghanol mis Mehefin, a bu'n rhaid ei hail-gynnal fis Gorffennaf. Ond nid dyna ddiwedd yr helyntion. Yn 1977, fe wnaeth llwyfan yr eisteddfod ddymchwel dan draed Côr Cymysg Glyndŵr, Corwen. Yn ffodus, chafodd neb ei anafu, a llwyddodd y pwyllgor i gryfhau'r llwyfan a bwrw ymlaen gyda'r cystadlu. Fel un o eisteddfodau bro mwyaf Cymru, bydd rhagbrofion wastad yn cael eu cynnal cyn y prif gystadlu dros benwythnos. Byddai dwsin o fysiau cyhoeddus yn arfer aros tan ddau or gloch y bore i fynd ar eisteddfodwyr adref o Lanrwst i'r wlad cyfagos. Dros y blynyddoedd, mae Llywyddion yr Eisteddfod wedi cynnwys yr Archesgob Alwyn Rees Jones, Elfyn Llwyd a Iolo ap Dafydd. Ymhlith enillwyr y gadair y mae Eigra Lewis Roberts a Myrddin ap Dafydd, ac fe gafodd y canwr Gwyn Huws Jones ail am adrodd yma yn 1984. Mae nifer o enwogion eraill wedi cystadlu yn yr eisteddfod yma dros y blynyddoedd, gan cynnwys Lisa Elfyn, Ffion Dafis, Rhys Meirion, Daloni Metcalf a'r enillydd Rhuban Glas John Eifion Jones. Bydd cystadlu hefyd am Dlws y Cerddor Ifanc, a enillwyd am y tro cyntaf gan Luned Davies, Bodwrog. Einir Gwenllïan Thomas, Bethel, Bodorgan oedd y gyntaf i ennill Tlws yr Ieuenctid.
 |