Cefndir Sefydlwyd yr eisteddfod hon yn nechrau'r ganrif ddiwethaf ac mae hi'n dal i fynd o nerth i nerth, gyda chystadlu brwd wedi bod am y gadair yn eisteddfod 2004.Eisteddfod gapel oedd hon i ddechrau ac mae'n debyg mai yng Nghapel Seilo yn y pentref y byddai'n cael ei chynnal cyn iddi ddod yn eisteddfod gadeiriol a symud i'r Neuadd Goffa. Mae dau gyfarfod - i gystadleuwyr hyd at 15 oed yn y p'nawn ac yna i'r oedolion fin nos. Bydd y cystadlu yn aml yn mynd ymlaen tan oriau mân y bore gyda'r gystadleuaeth canu emyn yn denu llawer iawn o gantorion dros 55 mlwydd oed! Ond prif seremoni'r eisteddfod yw cystadleuaeth y gadair ac eleni am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn, rhoddwyd cadair maint llawn i'r buddugol. Fel arfer, fe'i rhoddir, ynghyd â gwobr o £50, am gerdd gaeth neu rydd dros 100 linell o hyd. Gyda 30 wedi ymgeisio am y gadair yn 2004 mae hi'n argoeli'n dda am ddyfodol yr eisteddfod i'r blynyddoedd i ddod. Diolch i Gwyn Parri Huws Cysylltwch i ddiweddaru tudalen eich eisteddfod os gwelwch yn dda.
 |