Cefndir Dyma un o eisteddfodau hynaf y gogledd orllewin. Dechreuodd yn 1866 o dan ofal pwyllgor Ysgol Sul Capel Methodistaidd Calfinaidd Siloam, ac fe gâi ei hadnabod fel Eisteddfod Lenyddol Cylchwyl Bont Newydd.Caiff yr eisteddfod yma ei chynnal yn ôl ei draddodiad ar ddydd Gwener y Groglith, ac hefyd y nos Iau cynt. Am dri o'r gloch b'nawn Gwener, bydd y gynulleidfa yn oedi i ganu emyn sy'n berthnasol i'r croesholi, emyn fel Cofiaf y Cyfiawn Iesu. Daeth yn eisteddfod gadeiriol yn ystod y ganrif diwethaf ac mae bardd cadeiriol teilwng wedi bod bob blwyddyn ers hynny, yn ôl y sôn. Erbyn heddiw, bydd y bardd buddugol yn ennill cadair fechan, wedi'i llunio gan grefftwr lleol. Yr oedd yn fagwraeth dda i gystadleuwyr oedd yn mynd yn eu blaenau i'r Eisteddfod Genedlaethol. Ymhlith y rhai sydd wedi cystadlu dros y blynyddoedd y mae Bryn Terfel, gan fod ei nain a'i daid yn byw ym Montnewydd a daeth Margaret Williams i gystadlu pan oedd hi'n fyfyrwraig yn y Coleg Normal, Bangor. Aeth Brian Owen, y Groeslon, ymlaen o'r eisteddfod yma i ennill yr adrodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac Alun Jones, Trawsfynydd, i ennill y rhuban glas hefyd. Y ddiweddar Eluned Douglas Williams a fyddai'n cyfeilio i bawb dros y blynyddoedd. Erbyn hyn, cynhelir yr eisteddfod yma ar y nos Iau a'r nos Wener yn unig. Ar y nos Iau mi fydd plant oedran ysgol gynradd y cylch yn cystadlu, ac mi fydd pobl ifanc ac oedolion o Gymry gyfan yn dod at eu gilydd ar y nos Wener. Cysylltwch i ddiweddaru tudalen eich eisteddfod os gwelwch yn dda.
 |