Cefndir Cychwynnodd Eisteddfod Gadeiriol Bodffordd yn 1955. Yn wreiddiol, cafodd ei sefydlu fel cyfarfod cystadlu i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, ond wedi blwyddyn daeth yn eisteddfod lawn a symudodd y cystadlu i fis Hydref. Yna, yn 1996, penderfynwyd cynnal Eisteddfod Bodffordd ym mis Gorffennaf, gan felly roi cyfle i'r cystadleuwyr gael barn y beirniaid cyn yr Eisteddfod Genedlaethol.Cynhaliwyd yr eisteddfod yn Ysgoldy Capel y Gâd nes agor y ganolfan gymunedol newydd yn 1988. Hefyd, cynhelir cystadlaethau chwaraeon ar y dydd Sadwrn cyn yr ŵyl. Erbyn heddiw, mae'r cystadlu yn gyfyngedig i blant Ysgol Bodffordd yn y bore, ac yna'n agor i groesawu cystadleuwyr o Gymru benbaladr gyda'r hwyr. Y parchedig RW Williams, cyn brifathro Ysgol Llanbedr Goch, oedd y cyntaf i ennill cadair yr eisteddfod yma. Crefftwyr lleol sy'n llunior gadair ac yn 1999, cafodd ei chreu gan grefftwr lleol 17 mlwydd oed, Llew Jones. Cafodd ei llunio yn hen ddull y crefftwr traddodiadol, a dywed llawer mai dyma un o'r cadeiriau harddaf a welodd yr eisteddfod. Bydd tair tlws yn cael eu cyflwyno yn yr eisteddfod yma. Tlws yr Ifanc, y Tlws Rhyddiaith a'r Tlws Barddoniaeth. Ymysg y cyn enillwyr mae'r Dr Medwyn Huws, cyn brifathro Coleg y Drindod, Maldwyn John a Peredur Glyn. Un flwyddyn, gwahoddwyd y bardd buddugol Dafydd Wyn Williams i'r eisteddfod i dderbyn ei wobr ond pan ddaeth yn amlwg nad oedd yn y cyfarfod, bun rhaid i'r digrifwr a'r darlledwr Idris Charles ei derbyn yn ei le! Diolch i Ellis Wyn Roberts. Cysylltwch i ddiweddaru tudalen eich eisteddfod os gwelwch yn dda.
 |