BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Wyddgrug
Wendy Barker'Gom' am Maes Garmon
Roedd Wendy Barker o Nercwys yn un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Maes Garmon, yr ail ysgol uwchradd ddwyieithog yng Nghymru gyfan, a agorwyd yn yr Wyddgrug yn 1961.
Bellach yn byw ym Mhantymwyn ac yn gweithio fel technegydd trin gwallt yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy, Cei Conna, mae hi'n gweld sefyllfa'r Gymraeg wedi newid yn syfrdanol yn yr ardal:

"Mi es i ysgol y pentref yn Nercwys. Ro'n i yne am ddau ddiwrnod - achos Saesneg oedden nhw yne a Chymraes 'dw i, yn siarad Cymraeg adre, a doedd neb yn dallt be o'n i'n ddeud a do'n i ddim yn eu dallt nhw chwaith!

Wedyn mi ddaru mi ddechre mynd i'r ysgol Gymraeg yn yr Wyddgrug - Ysgol Glanrafon yr adeg yne. Ddaru nhw symud wedyn i lle mae Ysgol Bryn Coch. Wedyn aethon ni o fanne i Ysgol Maes Garmon ddaru gychwyn yn y 1960au. Wythdeg o blant oedd yne i ddechrau dwi'n meddwl, ond mae wedi tyfu rŵan.

Siop Hulsons: lle roedd tad Wendy yn fwtsiar Roedden ni'n teithio o Nercwys bob dydd i'r ysgol efo dad yn y fan. Roedd o'n fwtsiar yn Llywelyn Griffiths ar Stryd Wrecsam lle mae siop Hulsons rŵan.

Pan ddaru Maes Garmon gychwyn, ar safle Ysgol Glanrafon, roedd rhaid i'r fam a'r tad siarad Cymraeg. Ond fel mae pethe'n mynd, un neu'r llall oedd yn siarad Cymraeg yn y diwedd, felly mi newidiodd hi.

Y trwbl ydi, neith y Gymraeg ddim cario ymlaen achos yn Saesneg maen nhw'n chwarae tu allan - wedyn mae pawb yn troi i'r Saesneg.

Cymraeg o'n i'n siarad amser chwarae pan o'n i'n fach yn yr ysgol - ro'n i tua 10 oed cyn imi ddysgu siarad Saesneg. Doedd nain ddim yn licio'r syniad o gwbl! Ro'n i'n mynd adre a deud pethe yn Saesneg wrthi ac mi fydde hi'n gwylltio: "Cerwch o ma; yr hen iaith fain"! Dwi ddim yn meddwl iddi hi erioed siarad Saesneg a deud y gwir. Doedd hi ddim isho gwybod o gwbl!

Roedd hi o Fetws Gwerfyl Goch yn wreiddiol ac yn howscipar yn Llysfasi lle roedd taid yn fugail. Yn nes ymlaen ddaethon nhw i fyw i Nercwys.

Aeth y ferch i Faes Garmon hefyd. Ddaru hi a fi dorri'r gacen pan oedden nhw'n dathlu 25 o flynyddoedd. Elwyn Evans oedd y prifathro pan o'n i yne a Huw Alun ydi o rŵan - roedd o yn yr ysgol efo fi!

Newid yn Nercwys
Mae Nercwys wedi newid lot. Maen nhw'n adeiladu tai ym mhob man yne. Dyne'r trwbl efo pentre bach - mae pobl yn dod i mewn ac yn prynu'r tai, gwneud pres ac wedyn i ffwrdd â nhw. Wedyn does yne ddim bywyd ar ôl yn y pentre. Does neb yn aros. Does ne ddim gobaith i blant pentrefi bach brynu tai rŵan.

Does ne ddim byd ond capel yn Nercwys rwan - Capel Soar. Mae dros 100 o aelodau ond o gwmpas 17 sy'n troi i mewn ar ddydd Sul. Ond dwi'n cofio lot o siopau yno - roedd Nathan, dyn y Post Offis; roedd yne siop bach wrth Nant Ori, ochr arall i'r pentre; roedd ne siop yn Tŷ Capel - yn gwerthu bob math o bethe - pethe i gynnau tân, matches a tynie a phethau felly.

A Chymraeg fuasai iaith pawb. Does ne ddim llawer o Gymraeg yne rwan - mae hen berthnasau imi yn dal yne ac yn siarad Cymraeg, maen nhw yn eu 80au rŵan, ac mae lot o'r hen bobl y tu allan i'r pentre yn dal yn 'Gymraeg'.

Ty'd am 'gom'
Roedd fy modryb yn byw ar draws yr iard ar y fferm lle roedden ni'n byw ac mi fyddai hi wastad yn deud: 'Ty'd am gom' - sef chat.

Mae 'sbensh' yn air arall ryden ni'n ei ddeud y ffordd yma hefyd - cwpwrdd bach dan y grisiau.

Dwi'n byw yn Pantymwyn rwan - dyne bentre' bach Seisnigedd arall! Mae ne un neu ddwy ohonon ni'n siarad Cymraeg yno. Mae na WI yno ond dim Merched y Wawr!

Mae dwy ohonon ni'n siarad Cymraeg yn y gwaith - dyne ein iaith gyntaf a dene sut ryden ni'n cael gom, fel tae, ond rhaid ichi droi i'r Saesneg pan mae rhywun arall yn dod i fewn neu mae'n nhw'n meddwl eich bod chi'n siarad amdanyn nhw!

Ond mi fydda i'n siarad Cymraeg efo pobl yn ngwaith, hyd yn oed y rhai sydd ddim yn dallt! Mi fydda i'n gofyn 'tisho paned o de?' ac yn deud 'you say, ydw neu nagdw'. Ac maen nhw'n dysgu ac mae rhai yn deud eu hunain rŵan, 'Tisho paned o de?'!"



Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy