Y Farchnad Mae marchnad ar Stryd Fawr yr Wyddgrug bob dydd Mercher a dydd Sadwrn. Mae'n ymestyn i gefn y Stryd Fawr ac ymlaen i Ganolfan Daniel Owen ac mae'n un o rai prysuraf Sir y Fflint.
Tynnwyd y lluniau yma gan Lyndon Wray o Bensarn, Abergele. Os oes ganddoch chi fwy o luniau o'r farchnad neu o'r dref, anfonwch nhw i'w cyhoeddi yma drwy ebostio: gogleddddwyrain@bbc.co.uk