BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Wyddgrug
Defaid, gan Llinos LaniniLlinos Lanini
Ffotograffydd o'r Wyddgrug yn rhannu gwybodaeth am ei gwaith.

O le rydych chi'n dod yn wreiddiol a ble'r ydych chi nawr?
Dwi'n wreiddiol o fferm ger Dinbych yn Nyffryn Clwyd a rwan dwi'n byw yn yr Wyddgrug (ers 1987).

Sut wnaethoch chi ddechrau fel artist?
Ar ol degawd fel Gweithiwr Cymdeithasol yng nghanol Llundain a pymtheg mlynedd fel therapydd perthynas, prynu camera ar siawns yn Nhachwedd '05 a chyfarfod â defaid llwglyd ar ochr y mynydd, newidiodd fy mywyd yn gyfangwbl.Tynnais lun o'r defaid y diwrnod hwnnw ym Mawrth '06 ac fe ennillodd y llun le imi ar drip o wythnos i Singapor gyda'r Daily Telegraph a chomisiwn i dynnu llun i Galander Bwrdd Croeso Singapor yn 2007. Yn Chwefror 2007, yn hunanddysgiedig a gydag anogaeth gan eraill, mi drois at ffotograffiaeth fel gwaith llawn amser.

Beth sy'n dylanwadu ar eich gwaith? Ydych chi'n cael ysbrydoliaeth o'ch ardal lleol?
Mae 'na bob math o ddylanwadau - teulu, ffrindiau, gwaith, ffotograffwyr eraill, hanes, cylchgronnau ffotograffiaeth, cymeriadau, tirwedd, tywydd, effaith dyn ar ei amgylchedd - ac yn y blaen.
Mae'r ardal leol yn fendigedig ac yn ysbrydoliaeth - yr afon Ddyfrdwy, lan y mor, bryniau Clwyd, Moel Findeg - ac yn y blaen.

Ble mae eich gwaith wedi cael ei ddangos?
Yn ystod 2007/8 mi fum yn arddangos yn Oriel Red Bill, Bizzare a Rowan yn lleol. Fe dderbyniodd dwy Lyfrgell Luniau - Trevillion a Millenium nifer dda o luniau i'w casgliad. Cefais gyfle hefyd i dynnu llun clawr llyfr i awdur lleol.
Yn ystod 2009, dwi wedi arddangos yn unigol yn Clwyd Theatr Cymru yn yr Wyddgrug, Sinema'r Scala, Prestatyn ac yn Oriel Parc Glynllifon, Caernarfon. Dwi wedi arddangos ar y cyd yn Oriel/Amgueddfa Bangor, Oriel Pendeitsh Caernarfon, Oriel Goffa Coleg Ial Wrecsam, Oriel Scala, Prestatyn ac yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd, fel rhan o'r rownd derfynol o 'Artist y Flwyddyn Cymru 2009.' Mae cylchgronnau 'Golwg', 'Sylw' a 'Barn' wedi cyhoeddi nifer o luniau yn ystod y flwyddyn ac mae Gwasg Gomer, y Lolfa a Gwasg y Bwthyn wedi comisiynnu a chyhoeddi fy llyniau fel clawr i 4 llyfr.
Hyd yma yn 2010 mae na waith yn cael ei arddangos yn y Siop Siocled yn Ninbych, Oriel Scala, Prestatyn ac yn 'Elfen Celf', Llanberis yn ogystal ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol eto eleni. Mae na wasg o'r Iseldiroedd yn cyhoeddi llyfr gyda un o fy lluniau ar y clawr yn y gwanwyn.

Beth yw eich barn chi am fyd celf cyfoes yn genedlaethol ac yn lleol?
'Rwy'n dal i ddysgu am y byd celf cyfoes ar bob lefel. Mae'r byd ffotograffiaeth yn newid gyda ffotograffiaeth digidol, y rhyngrwyd a stad yr economi yn rhan o'r darlun.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy