"Carol ydy enw fi. Dwi'n byw yn Wrecsam. Dwi'n aelod o'r grŵp 'Voice'. Mae'r grŵp yn siarad i fyny am eu hunain. Mae pobl yn dod i'r grŵp ac yn siarad am eu problemau. Mae pawb ohonon ni'n gallu dod yma i siarad am learning disabilities. Dwi 'di bod mewn grwpiau tebyg o'r blaen. Dwi 'di ymuno â hwn nawr a dwi'n mwynhau neud pethau gyda'r grŵp. 'Dan ni'n gorfod cadw minutes ym mhob cyfarfod. Mae Wendy Perez yma heddiw, mae hi 'di dod lawr i weld ni heddiw a gwneud training efo ni. 'Dan ni hefyd wedi bod yn neud posteri bore 'ma. 'Dan ni 'di bod yn neud lluniau o'r pethau 'dan ni'n hoffi. Dwi'n hoffi gwau, canu a cherdded. Dwi'n mwynhau'r grŵp oherwydd dwi'n cael cyfle i siarad i fyny yn y cyfarfod. Croeso i bobl ddod yma i wrando arnon ni." Mae'r grŵp yn cwrdd bob yn ail ddydd Gwener yng Nhapel y Groes yn Wrecsam. Os ydych am fwy o wybodaeth am Voice ysgrifennwch atyn nhw: VOICE, PO Box 2271, Wrecsam, LL11 0DY.
 |