BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Wrecsam
Plant Nepal yn y dosbarth. Llun gan Edgar Lewis.Ysgol Plant y Brics
Mae Janet ac Edgar Lewis o Wrecsam yn esbonio sut mae elusen Plant y Brics yn helpu yn Nepal.

Edgar Lewis: Mae'r elusen yn mynd yn ôl i'r flwyddyn 2000 pan sefydlwyd yr ysgol yn y lle cynta gan un o'm cyd-swyddogion i yng Nghlwyd a wedyn yn Sir Dinbych, David Phoenix.

Mae'r cefndir yn ddiddorol dros ben: yn y 90au mi fuodd David yn ffodus i gael gwneud gradd yn rhannol yng Nghaertrefle ac yn rhannol ym Mhrifysgol Wisconsin a tra roedd o allan yn Wisconsin yn gwneud rhan o'i gwrs ddaru o gyfarfod â Bimal Shresthra, Swyddog Addysg o Kathmandu, a dyna 'di'r cysylltiad. A wedyn yn y flwyddyn 2000 mae David yn mynd i Kathmandu i ymweld â'i hen ffrind ac yn gweld cannoedd, miloedd mewn gwirionedd, o blant a theuluoedd yn gwneud brics efo llaw o gwmpas cartref Bimal yn Lalitpur, plant na fyddant yn derbyn unrhyw addysg o gwbl.

Felly dyna 'di tarddiad y peth, David wedyn yn dod yn ei ôl ac yn penderfynu gwneud rhywbeth, dod o hyd i adeilad yn weddol sydyn a wedyn, efo help ei frodyr, yn casglu digon o arian at ei gilydd i dalu am ddwy athrawes am y flwyddyn gyntaf. Wedyn yn y flwyddyn 2000 mi es i allan efo fo, pan oedd tipyn o gythrwfwl yn y wlad a nifer o athrawon Sir Ddinbych wedi tynnu 'nôl o'r trip mi es i allan efo fo i weld beth oedd y sefyllfa a cael 'y nghlymu mewn, mewn ffordd!

A mi gynyddodd yr ysgol o ryw 90 yn y flwyddyn gynta i bron i 200 yn ystod yr ail a'r trydydd flwyddyn. A dyna pryd y penderfynwyd greu elusen go iawn, ei chofrestru hi a mynd i chwilio am ymddiriedolwyr. Tri ohonon ni oedd 'na yn y lle cynta, mae hwnnw wedi cynyddu bellach i chwech gan bod yr ysgol ei hunan wedi cynyddu i bron i dri chant o blant. Eleni mae'r ysgol wedi ymestyn gan bod ganddon ni 'satellite' ryw filltir i ffwrdd o'r adeilad gwreiddiol a mae hynny wedi caniatau i ni addysgu rywbeth fel 60 fwy o blant nag oedd yr ysgol wreiddiol yn gallu ei gyflenwi.

Mae bron y cyfan o'r arian i'r elusen yn dod o ardal Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych ond da ni hefyd yn mynd drosodd i Sir Gaer a wedi bod mor bell â Southport, Sir Fôn a'r Trallwng yn siarad am yr ysgol a chodi arian.

Mae pobl o gwmpas y lle wedi dod i 'nabod yr elusen fel un lleol gan ein bod ni i gyd yn swyddogion addysg neu'n athrawon sy wedi gweithio yn lleol efo llawer o gysylltiadau.

Yn ogystal â'r ysgol i'r plant 'dan ni'n rhedeg dosbarthiadau i oedolion hefyd, mae na ddosbarthiadau mewn iaith, mathamateg, darllen a gwnio, yn enwedig, yn boblogaidd dros ben, iechyd a HIV ac AIDS.

Janet Lewis: Fues i allan yn 2005 i Nepal am y tro cyntaf. Roedd Edgar wedi bod o'r blaen a wedi fy rhybuddio i, i ddweud y gwir, am y fath o dlodi oedd i'w weld yno. 'Dach chi'n cyrraedd yn Nepal a mae fel petai yna filoedd o bobl o'ch cwmpas chi, mae'r holl dlodi 'ma ond hefyd mae 'na rywbeth cyfoethog ynglyn â'r lle [Kathmandu] oherwydd yr holl adeiladau hyfryd, y lliwiau, mae'r menywod yn edrych yn hyfryd yn eu gemwaith ac ati.

Ond un peth wnaeth fy nharo i fel cyn-athrawes pan es i i'r ysgol, ac i sawl ysgol arall hefyd, oedd on nhw'n edrych mor dlawd a fformal i gymharu â'n hysgolion ni - dim teganau, dim byd fel yna gan y plant o gwbl. Gwaith, be fysen i'n ei alw'n 'Chalk and talk'! Ond ma'r plant wedi dod ymlaen yn rhyfeddol o dda ag ystyried bod nhw heb gael unrhyw fath o addysg cyn mynd i Ysgol Plant y Brics, mae safon y gwaith maen nhw'n neud yn aruthrol.

Mae llawer o ysgolion cynradd Sir Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn cefnogi'r elusen, ac mae un o athrawon Ysgol Plant y Brics, sef Anita Shresthra, wedi bod draw yma a nes i fynd â hi i sawl ysgol yn ardal Wrecsam: ysgol feithrin fel Erddig, Ysgol Victoria, iddi cael gweld y math o addysg a'r math o ddarpariaeth sydd ar gael i'r plant yn y wlad yma a fe aeth hi nôl llawn brwdfrydedd a da ni wedi gweld gwahaniaeth yn y ffordd mae'r athrawon yn dysgu yn Ysgol Plant y Brics a mae athrawon o ysgolion eraill yn Nepal yn dod i weld beth sydd yn mynd ymlaen yn Ysgol Plant y Brics achos bod nhw'n cyrraedd safon uwch na lot o ysgolion y llywodraeth.

Yn Nepal mae'r plant fel arfer yn gorfod talu am bensiliau, llyfrau ac ati felly os ydyn nhw'n dod o deuluoedd tlawd, fel teuluoedd plant y brics, does dim gobaith iddyn nhw gael unrhwy addysg o gwbl a dyna oedd yn digwydd i'r plant sy'n mynychu Ysgol Plant y Brics.

Nawr mae nhw'n cael addysg yn rhad ac am ddim, mae nhw'n cael bwyd pob dydd - cinio ysgol fel dhal baht [reis a lentils], ffrwythau a llysiau a dŵr glan. Hefyd mae nhw'n cael llyfrau a phensiliau a dillad ysgol a pan rydyn ni'n mynd i ysgolion ardal Wrecsam rydyn ni'n gallu dangos fideo o'r plant bach yn Nepal fel bod plant Wrecsam yn medru gweld sut mae rhoi'r arian at yr elusen wedi helpu'r plant yna. Mae yna lawer o weithgareddau'n mynd ymlaen yn ysgolion Wrecsam a'r cylch sydd yn cefnogi Ysgol Plant y Brics.



Hanes
Trefi


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy