BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Wrecsam
Llun gigMenter Iaith Maelor
Mudiad cymunedol gwirfoddol yw Menter Iaith Maelor sy'n hyrwyddo'r defnydd ac ymwybyddiaeth o'r iaith Gymraeg ar draws sir Wrecsam.
Daeth y Fenter i fodolaeth yn Nhachwedd 2000 yn sgil gwaith caled criw o wirfoddolwyr yn y Sir oedd yn credu bod angen gwneud llawer mwy i hybu'r iaith Gymraeg yn y Sir. Bellach mae'r mudiad wedi ei leoli yng nghanol tref Wrecsam ac yn cyflogi un aelod staff llawn amser, Siôn Wynne.

Maent yn cynnal gweithgareddau cymdeithasol yn Wrecsam gan gynnwys nosweithiau cymdeithasol misol wedi eu hanelu at siaradwyr Cymraeg a dysgwyr profiadol a gweithgareddau i blant megis jambori awyr agored i blant ifanc ym Mharc Bellevue gyda'r diddanwr Martyn Geraint.

Mae'r Fenter hefyd yn cynnal gigs gyda rhai o artistiaid amlycaf y Sîn Roc Gymraeg yn perfformio ochr yn ochr â bandiau sydd â chysylltiadau a'r ardal megis No Star a ddaeth yn fuddugol ym Mrwydr y Bandiau C2 a Mentrau Iaith Cymru yn 2005 gan drechu bandiau o bob cwr o Gymru.

Yn ogystal â threfnu gweithgareddau eu hunain maent hefyd yn cefnogi gweithgareddau annibynnol a gaiff eu cynnal ar hyd a lled y Sir. Mae'r Fenter yn ddiweddar wedi bod yn ymwneud ag Eisteddfod Dyffryn Ceiriog fydd yn cael ei gynnal ym mis Mai a'r Ŵyl Gerdd Dant fydd yn ymweld â Rhosllannerchrugog yn Nhachwedd 2006.

Yn ôl Siôn Wynne, prif sialens y Fenter yw sicrhau bod plant a phobl ifanc y Sir yn sylweddoli maen nhw sy'n gyfrifol am ddyfodol a thynged yr iaith yn y Sir. Fel rhan o'r gwaith i geisio sicrhau bod siaradwyr Cymraeg ifanc y Sir yn cymryd perchnogaeth dros yr iaith mae'r Fenter wedi sicrhau grant o £5,000 gan y Loteri Genedlaethol. Bydd y grant yn galluogi'r Fenter i gynnal Fforwm Ieuenctid yn y Sir bydd yn rhoi cyfle iddynt godi pryderon am yr iaith yn eu hardal a threfnu gweithgareddau eu hunain.

Yn ogystal â'r ochr gymdeithasol i'r iaith Gymraeg mae'r Fenter hefyd yn hyrwyddo'r iaith yn sector breifat y Sir trwy roi gwybodaeth am grantiau sydd ar gael ar gyfer arwyddion dwyieithog, rhoi gwybodaeth am wersi Cymraeg i Oedolion ac annog mudiadau gwirfoddol eraill y Sir i wneud defnydd o'r iaith.

Am ragor o wybodaeth am beth all Menter Iaith Maelor wneud i chi, cysylltwch â Siôn Wynne ar 01978 363 791 neu drwy ysgrifennu at Menter Iaith Maelor yn 65 Stryt y Rhaglaw, Wrecsam. LL11 1PF.


[an error occurred while processing this directive]

Hanes
Trefi


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy