Lluniau'r Cae RasY gred yw i aelodau o'r clwb criced sefydlu'r clwb pêl-droed mewn cyfarfod yng Ngwesty'r Turf, tafarn sydd yn parhau ar y safle hyd heddiw.
Chwaraewyd dros 80 o gemau rhyngwladol llawn ar y Cae Ras ers y gêm gyntaf rhwng Cymru a'r Alban ym Mawrth 1877.
Achlysurol yw ymddangosiadau'r tîm cenedlaethol ar y Cae Ras erbyn hyn, ond mae'n lleoliad pwysig ar gyfer gemau'r timau rhyngwladol iau.
Roedd Wrecsam yn gystadleuwyr aml yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop yn ystod y saithdegau, yr wythdegau a'r nawdegau cynnar.
Ymwelodd rhai o glybiau mwyaf Ewrop gan gynnwys Anderlecht, AS Roma, FC Porto a Manchester United.
Bu sawl uchafbwynt yng Nghwpan yr FA, gyda'r fuddugoliaeth yn erbyn Arsenal yn Ionawr 1992 bellach yn rhan o chwedloniaeth.
Gwelwyd datblygiadau mawr yn ystod y saithdegau pan adeiladwyd dau eisteddle newydd ac yn y nawdegau fe agorwyd Eisteddle Pryce Griffiths, gan ddwyn enw Cadeirydd y clwb ar y pryd.
Yma, ym mis Awst 1997, y daeth tîm rygbi Cymru i'r gogledd am y tro cyntaf gan guro Romania mewn gêm ryngwladol.
Dwy flynedd yn ddiweddarach cafodd un o gemau Cwpan Rygbi'r Byd, Samoa yn erbyn Siapan, ei chynnal ar y Cae Ras.
Bu ansicrwydd ynglŷn â'r Cae Ras yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond erbyn hyn mae'r dyfodol yn edrych yn fwy gobeithiol gyda chynlluniau i ddatblygu'r maes.