Mae wedi bod yn fraint cael bod yn Gadeirydd Gŵyl Cerdd Dant Dyffryn Clwyd 2008. Ar ôl bod yn cystadlu fy hun ers yn ifanc iawn, mae hyn yn benllanw ar y cyfan. Roedd gennym bwyllgor gwaith ardderchog a phawb yn cyd weithio i godi arian ar gyfer yr ŵyl. Cawsom sawl noson gofiadwy - yn gyngherddau, ocsiwn addewidion, canu carolau, ras hwyaid a sawl bore goffi. Buom yn ffodus iawn hefyd i gael cefnogaeth hael Cyngor Sir Ddinbych a nawdd gan Ynni Gwynt Cymru. Mae'r Ŵyl wedi bod yn agos iawn at fy nghalon ers i mi fod yn cystadlu pan oeddwn tua 8 oed. Mae geiriau yn bwysig iawn i mi, a chan nad oeddwn yn dda am lefaru, roedd cael canu cerddi a barddoniaeth yn rhoi pleser mawr i mi. Mae Cerdd Dant yn union fel llefaru ar gân. Wrth gwrs, er mwyn canu Cerdd Dant mae'n rhaid cael Gosodiad sy'n gallu dod â'r geiriau'n fyw. Rwyf innau wedi dysgu sut i osod Cerdd Dant bellach ers blynyddoedd, ac mae'n braf heddiw gweld mwy a mwy o bobl ifanc yn cymryd diddordeb yn yr hen grefft. Nid Cerdd Dant yn unig a glywn yn yr ŵyl, ond hefyd cawn ganu gwerin, dawnsio, llefaru a grwpiau offerynnol. Mae'n ŵyl unigryw sy'n perthyn i ni'r Cymry a does dim byd tebyg i'w gael yn unlle arall yn y byd. Mae'n gyfle i weld ffrindiau hen a newydd, a bydd Pafiliwn Y Rhyl yn lleoliad cyfforddus a chyfleus i bawb. Dw i'n gobeithio bydd pobl Y Rhyl yn galw i mewn i gael blas o'r wledd ac y byddant yn sylweddoli cymaint o dalentau fydd ar y llwyfan ar stepen eu drws.
 |