BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Rhos
Parc Ponciau, maes Rhos AelwydCPD Rhos Aelwyd
Trefor Williams aelod o bwyllgor Clwb Pêl Droed Rhos Aelwyd sydd yn bwrw golwg dros hanes y clwb.

"Ffurfiwyd y clwb yn Ionawr 1943 yng Nghapel Mawr yn Rhos, yn wreiddiol fel tîm ieuenctid.

"Mae'r clwb wedi cael cryn lwyddiant yn ystod y 60 mlynedd ddiwethaf, y llwyddiant cyntaf oedd ennill Cwpan Pantyfedwen, Urdd Gobaith Cymru ym 1955, eu chweched rownd derfynol yn olynol.

"Wedi uno gyda Aelwyd Ponciau, bu i Rhos Aelwyd ym 19958/59 dan arweiniad Meirion Powell gwblhau'r 'dwbwl' - y gynghrair a'r gwpan - yn Ail Adran y Welsh National League.

"Sicrhaodd Yr Aelwyd y 'dwbwl' yn ystod tymor 1982-83 gan ennill y Gynghrair a Cwpan yr Ail Adran dan arweiniad Arthur Lewis. Daeth buddugoliaeth enwocaf y clwb yng Nghwpan Barritt ym 1986.

"Gyda Peter Davies yn reolwr, enillodd yr Aelwyd eu holl gemau oddi cartref yn y gwpan. Yn y rownd derfynol ym Mae Colwyn, roedd Rhos Aelwyd yn fuddugol yn erbyn Caernarfon mewn ciciau o'r smotyn.

"Ym 1992, oherwydd brwdfrydedd a gweledigaeth y rheolwr Andrew Williams a pwyllgor cryf, fe wnaeth Rhos gais llwyddiannus i ymuno â'r Gynghrair Undebol.

"Yn anffodus fe ddisgynnodd y clwb ym 1997 a dychwelyd i'r Welsh National League Ar hyn o bryd mae gan yr Aelwyd ddau dîm hŷn - y tîm cyntaf sy'n cael ei reoli gan Tony Williams a'r ail dîm, sy'n cael eu rheoli gan John Wright a George Jones.

"Parc Ponciau yw cartref y timau hyn ac mae lluniaeth i'w gael wedi'r gemau yn y Stiwt, ble roedd y chwaraewyr yn newid cyn gemau flynyddoedd yn ôl.

"Mae'r Aelwyd yn glwb gyda dyheadau i ddychwelyd i'r Gynghrair Undebol.

"Mae'r pwyllgor yn gymysgedd o aelodau sydd wedi bod yn gysylltiedig gyda'r clwb ers tair degawd a aelodau ifanc brwdfrydig sydd yn rhan o'r adran iau. Mae dyfodol yr Aelwyd yn edrych yn addawol iawn."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Hanes
Radio Cymru
Trefi


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy