BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Rhos
Côr Meibion Y RhosCôr Meibion Y Rhos
Mae'r pentref yn adnabyddus am ei draddodiad cerddorol, ac yn gartref i sawl côr. Mae Melvin Evans yn aelod o Gôr Meibion Y Rhos.

"Mae enw Côr Meibion Y Rhos a chanu corawl ar ei orau yn gyfystyr trwy'r byd i gyd ers i'r côr gael ei sefydlu gan Richard Mills ym 1891.

"Ers hynny mae cynulleidfaoedd ym Mhrydain ac mewn llawer o wledydd eraill wedi cael eu swyno gan sain unigryw'r côr o bentref Rhosllannerchrugog ger Wrecsam.

"Yn ychwanegol mae recordiau a cryno ddisgiau'r côr wedi cael ei werthu ledled y byd ac mae carwyr cerddoriaeth dda yn cael cyfle i glywed y côr yn aml ar y radio a'r teledu.

"Maent wedi cael llwyddiant mewn nifer o gystadlaethau dros y blynyddoedd yn cynnwys bod yn Côr y Flwyddyn y BBC dwywaith ac ennill y brif wobr dwywaith yng Ngŵyl Gerddoriaeth Gymru HTV.

"Roeddynt yn fuddugol yn erbyn 112 o gorau eraill yn Wŷl Gerdd Glarner yn Y Swisdir ac maent wedi bod yn llwyddiannus sawl gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Yn ychwanegol maent wedi ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a bydd y côr yn cymryd rhan yn y cyngerdd i ddathlu pen-blwydd yr wŷl yn 60 oed.

"Mae'r côr wedi teithio'n aml i lefydd fel Unol Daleithiau America, Canada, Yr Almaen, Y Swisdir, Yr Eidal ac i Baris a chael derbyniad da lle bynnag maent wedi ymddangos. Ym mis Hydref byddent yn ymweld â Sbaen gydag un cyngerdd o'r tri yng Nghadeirlan Granada.

"Mae Côr Meibion y Rhos yn ymfalchïo yn y ffaith bod eu rhaglen yn cynnwys cerddoriaeth amrywiol o wahanol gyfnodau, megis emyn donau, caneuon o'r sioeau, baledi ac eitemau o fyd yr opera - yn wir, rhywbeth i bawb.

"Heb amheuaeth mae'r côr yn boblogaidd iawn, er enghraifft mae pob un o'u cyngherddau'r flwyddyn hon wedi bod o flaen cynulleidfa lawn.

"Gwerthwyd holl docynnau Cyngerdd Blynyddol y côr yn Wrecsam fis Hydref diwethaf bum mis cyn y noson - Katherine Jenkins oedd yr unawdydd gwadd - ac mae'r côr wedi canu gyda Bryn Terfel hefyd.

"Y tenor Rhys Meirion fydd yr unawdydd yn y Cyngerdd Blynyddol nesaf ar nos Sadwrn, Tachwedd 18, a bydd y pianydd disglair, oedd unwaith yn cyfeilio i'r côr, Llŷr Williams hefyd yn cymryd rhan. Afraid yw cyhoeddi bod y tocynnau am y cyngerdd yn brin iawn.

"Cyfarwyddwr Cerdd y côr ers mis Ionawr, 2005, yw John A. Daniel, un sy'n brofiadol iawn mewn cerddoriaeth o bob math. Graddiodd o'r Coleg Cerdd Brenhinol ym Manceinion ac mae'n beirniadu mewn eisteddfodau.

"Yr Is-Gyfarwyddwr Cerdd a'r cyfeilydd yw Kevin Whitley, sydd â gradd mewn cerddoriaeth o Brifysgol Cymru yng Nghaerdydd.

"Mae croeso'n aros i unrhyw un i ymuno â Chôr Meibion y Rhos. Mae'r ymarferion yn cael eu cynnal yng Nghlwb yr Hafod yn y Rhos pob nos Lun rhwng 7.15 a 9.15pm a phob nos Iau yn Y Stiwt yr un amser.

"Cadeirydd y côr yw J. Norman Davies (01829) 270210 a'r ysgrifennydd yw J. Raymond Jones (01978) 845219."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Hanes
Radio Cymru
Trefi


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy