BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Rhos
Yr Ŵyl Gerdd DantCyfraniad Edison i ganu gwerin Cymru
Mi chwaraeodd y dyfeisydd Thomas Edison rôl allweddol yn y gwaith o gofnodi ein traddodiad gwerin.

Dyna a ddatgelwyd mewn un o nifer o raglenni a ddarlledwyd ar S4C ym mis Tachwedd 2006 yn dathlu'r elfen hon o'n diwylliant.

Roedd Y Werin Bobl, rhaglen ddogfen yn nodi canmlwyddiant Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, yn adrodd sut y cyflwynodd Edison ei hun ei ddyfais newydd, y ffonograff, i'r Gymdeithas a alluogodd iddi gasglu ynghyd yn rhwydd ganeuon ac alawon a fyddai wedi mynd yn angof fel arall.

Roedd y rhaglen hefyd yn cyflwyno ymchwil Dr Meredydd Evans a Phillis Kinney sy'n dangos mai cân â'i gwreiddiau yn America yw'r enwog "Moliannwn" a bod y fersiwn wreiddiol yn gân hynod o drist.

Cafodd y rôl allweddol chwaraeodd merched yn y casglu, gan gynnwys merched di-Gymraeg, ei olrhain hefyd, ac ymhlith cyfranwyr eraill y rhaglen roedd y Dr Roy Saer, a deithiodd pob cwr o Gymru yn cofnodi caneuon.

Ymysg y cantorion a glywyd yn ystod y rhaglen oedd Arfon Gwilym, Gwyneth Glyn, Gwilym Morus, Linda Griffiths a Richard James, cyn-aelod o'r band Gorky's Zygotic Mynci.

Meddai Angharad Anwyl, cynhyrchydd Y Werin Bobl, "Heb ymdrechion arwrol sylfaenwyr y Gymdeithas ganrif yn ôl, mae'n bur debyg y byddai llawer o'n caneuon gwerin hyfrytaf wedi mynd i ebargofiant."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Hanes
Radio Cymru
Trefi


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy