Parti Plant Mewn Angen Daeth nifer o artistiaid enwog i Wrecsam, ar noson Plant Mewn Angen 2004 i gymryd rhan mewn parti arbennig i Pudsey. Yn eu plith y canwr roc Bryan Adams, y grŵp Wet Wet Wet, Lisa Scot-Lee a llawer mwy.
Ewch i edrych ar y lluniau yma!
Cynhelir parti Pudsey yn Wrecsam eto eleni - Tachwedd 18, 2005 yw'r diwrnod mawr. Cliciwch yma am fwy o fanylion.
Roedd y canwr roc o Ganada yn ymuno â rhestr nodedig o enwau mawr eraill, gan gynnwys Wet Wet Wet, yn eu perfformiad cyhoeddus cynta ers ail sefydlu eu hunain; Katherine Jenkins y gantores glasurol sydd â'i halbwm 'Second Nature' yn rif un yn y siart clasurol ar hyn o bryd, Lisa Stansfield, Lisa Scott-Lee a Dragonheart. Roedd y canwr a'r cyfansoddwr Kristian Leontiou yn ymddangos yno hefyd.
Y darlledwyr Jason Mohammed a Frances Donavan oedd yn cyflwyno'r rhaglen deledu o'r cyngerdd a Kevin Hughes a Howard Griffiths wrth law yn cyflwyno'r bandiau ar y llwyfan.
Cafwyd noson lwyddiannus iawn a thrigolion Wrecsam wrth eu bodd fod y gyngerdd wedi dod i'w tref nhw.
Oeddech chi yno? A weloch chi'r gyngerdd ar y teledu? Beth oeddech chi'n feddwl? Dwedwch wrthon ni trwy lenwi'r ffurflen isod.