| Dyma rai o'u hoff a'u casbethau am y dref - ydych chi'n cydweld â nhw? Pethau maen nhw'n eu hoffi: Llu o weithgareddau i'w gwneud: cerdded, abseilio, canŵio, amgueddfa hanes a cheir, yr Eisteddfod Rhyngwladol, Gŵyl Fwyd a Gŵyl Balwns.
Llu o bethau i'w gweld: camlas a phont ddŵr enwog Telford, Dinas Bran, Plas Newydd, Bwlch yr Oernant, pont Llangollen.
Atyniadau: Golygfeydd hardd a phobl gyfeillgar; siop sglodion gorau'r fro; Yr Hen Gapel, sy'n ganolfan twristiaeth ac yn llyfrgell, ynghyd â siop lyfrau hynod ddefnyddiol. Pethau nad ydyn nhw'n eu hoffi: Llawer o siopau tat, haid o fotobeics ar y penwythnos, traffic trwm yn yr haf, ychydig o dai ar gyfer bobl lleol, a llawer gormod o blincin twristiaid! Beth allai wella Llangollen: Mwy o feysydd parcio, ffordd osgoi neu dwnel o dan y dre, garej betrol, a mwy o arwyddion a gweithgareddau Cymraeg. Sylwadau eraill: Mae angen sicrhau adeilad parhaol ac aml bwrpas ar faes yr Eisteddfod.
 |