BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Twm Sbaen
Un o'r rhai a atebodd yr alwad am wirfoddolwyr i ymladd yn erbyn y Ffasgwyr yn Rhyfel Cartref Sbaen oedd Tom Jones o Rosllannerchrhugog.
Gwirfoddolodd Tom Jones, neu Twm Sbaen fel y câi adnabod yn lleol, i ymladd yn erbyn Franco fel aelod o'r Frigâd Ryngwladol.

Siaradodd am ei brofiadau ar y rhaglen Roeddwn i Yno yn 1974.

Mae'n debyg i danchwa pwll glo Gresffordd ger Wrecsam yn 1934 effeithio yn fawr ar Tom Jones. Roedd gweld y cyrff yn dod i'r wyneb wedi'r ddamwain yn ddylanwad mawr a effeithiodd ar ei ddaliadau gwleidyddol. Ddwy flynedd yn ddiweddarach ymunodd â degau o Gymry eraill yn y Frigâd Ryngwladol.

Er iddo gael ei arestio a'i garcharu yn Ffrainc llwyddodd i gyrraedd y llinell flaen yn y rhyfel yn erbyn Franco.

Wedi cyfnod hir o ymladd bu Tom ym mrwydr waedlyd yr Ebro yn 1938 a fe oedd yr unig unig un o'i fataliwn i oroesi. Cafodd ei garcharu yn Zaragoza ac yna yn Burgos lle'r oedd pencadlys Franco.

Saithdeg mlynedd ers dechrau Rhyfel Cartref Sbaen, aeth ŵyr Tom, Andrew Nield o Benarlâg yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yn Valencia yn Sbaen, o amgylch Sbaen i lefydd oedd yn bwysig i'w daid ar gyfer rhaglen BBC Cymru, O Flaen Dy Lygaid yn 2006.

Er gwaetha profiadau ei daid yn Sbaen, mae Andrew'n ei gofio fel rhywun hapus.

"Dwi'n cofio dyn oedd yn chwerthin ac yn jocio trwy'r amser," meddai.

"Dyn caredig oedd o efo pawb yn enwedig efo'i deulu. Ella bod hynny'n rhyfedd o feddwl beth oedd o wedi bod drwyddo yn Sbaen."

Cafwyd mwy am hanes y rhaglen am Twm Sbaen ar dudalennau newyddion ar-lein ar y pryd.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy