BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eich Bro
Catrin FinchGŵyl Rhuthun
Daeth llu o sêr i Ddyffryn Clwyd ar gyfer gŵyl gerddorol flynyddol y dref hanesyddol.
Cynhaliwyd Gŵyl Rhuthun 2005 o 27ain Mehefin i 3ydd Gorffennaf, gyda 'Top Dre' ddydd Sadwrn 2il Gorffennaf.

Mae Gŵyl Rhuthun yn ŵyl gerdd flynyddol a bery am wythnos yn ystod misoedd yr haf.

Wedi ei sefydlu yn 1994 mewn cydweithrediad â Phwyllgor Gefeillio y dref, daeth yn fuan iawn yn ddigwyddiad blynyddol poblogaidd sydd yn apelio at bobl o bob oed ac at ddant pawb.

Uchafbwynt yr ŵyl oedd 6 awr o adloniant am ddim ar sgwâr hynafol y dref, oedd ar gau i draffig am y diwrnod.

Mae hwn yn achlysur cymdeithasol y gall bawb ei fwynhau gyda llawer o fandiau a grwpiau dawns gwahanol yn rhoi amrywiaeth o adloniant.

Parhaodd ysbryd yr ŵyl yn hwyr i'r nos gyda bandiau yn perfformio fin nos yn y tafarnau a gwestai lleol.

Ymhlith yr artistiaid yr oedd disgwyl iddyn nhw gymryd rhan oedd: cyn delynores Tywysog Cymru, Catrin Finch; y bianyddes, Teleri-Sîan, y grŵp dawns a chân o Zimbabwe, Black Umfolosi; y grwp gwerin Cymreig, Y Moniars; y sacsaffonydd jazz, Alan Skidmore, a Dr Jazz.

Cynhaliwyd y perfformiadau mewn gwahanol leoliadau, gan gynnwys: Clwb Rygbi Rhuthun; Theatr John Ambrose; y Manorhaus; Castell Rhuthun; Awelon; Y Venue; Neuadd y Farchnad ac Eglwys San Pedr.

Ceir rhagor o fanylion ar safle'r ŵyl yma.

  • Cliciwch yma i edrych ar luniau o'r ŵyl.

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Ffilmiau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy