Clive Cymdeithas Owain Cyfeiliog yng Ngwesty'r Belmont yn Wrecsam. Cyfle i drafod llenyddiaeth Gymraeg. Ac wrth gwrs, Clwb Pêldroed Wrecsam.Sion Rhys Wynne o Ddinbych Digwyddiadau Menter Iaith yn Wrecsam yn cael eu trefnu'n gyson. Rhian Angharad Davies o'r Wyddgrug Dawnswyr Delyn - Grŵp dawnsio gwerin ddwyieithog, hwylus i bob oedran a gallu, yn cyfarfod yn Neuadd Eglwys Santes Fair bob nos Lun am 8pm. Côr Parti'r Pentan - Côr cymysg ifanc, yn canu bob math o ganeuon ysgafn, yn cyfarfod yn Nhafarn y Pentan bob nos Fawrth am 7.30pm. Sesiynnau Sgwrs i ddysgwyr yn cael eu rhedeg gan Menter Iaith Sir y Fflint (ffoniwch 01352 755614 am fwy o fanylion.) Iwan Williams, Llangwm, Corwen. Aelod o Gôr Meibion Llangwm.
 |