Clwyd Theatr Cymru
www.clwyd-theatr-cymru.co.uk
Un o brif theatrau'r ardal yn cynnal nifer o ddramau, cyngherddau a ffilmiau drwy'r flwyddyn yn ogystal ag orielau yn dangos gwaith artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol.
Neuadd William Aston (NEWI) www.newi.ac.uk/cy
Cynhelir cyngherddau ac adloniant byw yn y lleoliad 900-sedd yma. Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn chwarae yma'n rheolaidd. Y Pafiliwn Cydwladol Brenhinol, Llangollen www.royal-pavilion.co.uk/index_cy.html
Mae cartref Eisteddfod Ryngwladol Llangollen hefyd yn cynnal cerddoriaeth, drama a chomedi yn ystod y flwyddyn. Mae digwyddiadau eraill fel Gŵyl Fwyd Llangollen hefyd yn digwydd yn y pafiliwn. Y Stiwt
www.stiwt.co.uk
Theatr mewn adeilad a gafodd ei adeiladu drwy gyfraniadau gan löwyr lleol. Mae nifer o ddramâu a sioeau yn cael eu cynnal yma gan gynnwys cynhyrchiadau yng Nghymraeg. Theatr y Pafiliwn, Rhyl www.rhylpavilion.co.uk/cym
Mae Theatr y Pafiliwn yn cynnal nifer eang o gynhyrchiadau gan gynnwys dramau, cerddoriaeth, pantomeim a chomedi. Venue Cymru (Llandudno)
www.venuecymru.co.uk Theatr yn Llandudno sydd yn cynnal drama, opera a cherddoriaeth yn ogystal â sioeau ar gyfer plant. Grove Park Theatre (Saesneg) www.groveparktheatre.co.uk
Theatr yn Wrecsam sydd yn cynnal perfformiadau amatur gan gynnwys pantomeim blynyddol boblogaidd.
Theatr Twm o'r Nant (Saesneg)
www.visitdenbigh.co.uk/theatrepage.html Mae dramau a chyngherddau yn cael eu cynnal yn Theatr Twm o'r Nant yn Ninbych. Mae yna glwb ffilimiau yn y theatr hefyd.
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
 |