BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Digwyddiadau

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dei MorrisPobl y Sioe
Pobl a fu'n cymryd rhan yn Sioe Dinbych a Fflint 2008 yn rhoi eu barn am y sioe.

Dei Morris

Beth oeddech chi'n ei wneud yn y sioe eleni?
Cystadlu yn yr adran colomenod.

Beth oedd eich hoff beth yn y sioe eleni?
Ennill y cil wobr yn yr adran, hefyd y ciw ffansi gorau 2008.

Pa fwyd wnaethoch chi fwynhau bwyta?
Pei cig eidion.

Beth fyddech chi'n ei ddweud i annog pobl i ddod i'r sioe yn y dyfodol?
Mae'r sioe fel ffenestr siop i lawer o fridwyr. Lle da i gychwyn plant ifainc hefo adar.

Beth yw eich hoff atgof o unrhyw flwyddyn o'r sioe?
Ennill y cil wobr dwy waith.

Gwen SmithGwen Smith

Beth oeddech chi'n ei wneud yn y sioe eleni?
Gweithio ym mhabell Merched y Wawr. Fi 'di Llywydd y pwyllgor arbenning ar gyfer pabell y sioe. 'Dan ni'n gwerthu bwyd a darparu lluniaeth. Mae 'na stondinau efo nwyddau Merched y Wawr a 'dan ni'n arddangos cynnyrch cystadlaethau Merched y Wawr.

Beth oedd eich hoff beth yn y sioe eleni?
Gweld y trefniadau blodau.

Pa fwyd wnaethoch chi fwynhau bwyta?
Bara brith.

Beth fyddech chi'n ei ddweud i annog pobl i ddod i'r sioe yn y dyfodol?
Mae yna amrywiaeth o bethau i weld yma, gan gynnwys llawer o anifeiliaid. Mae'n dda gweld pethau o fywyd cefn gwlad ac hefyd mae'n le i gyfarfod pobl. Mae'n le cymdeithasol.

Beth yw eich hoff atgof o unrhyw flwyddyn o'r sioe?
Unrhyw flwyddyn 'dan ni 'di cael tywydd da!

Geraint JonesGeraint Jones

Beth oeddech chi'n ei wneud yn y sioe eleni?
Dangos defaid 'charollais' ac ennill cyntaf efo oen gwryw.

Beth oedd eich hoff beth yn y sioe eleni?
Ennill cyntaf!

Pa fwyd wnaethoch chi fwynhau bwyta?
Brechdanau wŷ Mam!

Beth fyddech chi'n ei ddweud i annog pobl i ddod i'r sioe yn y dyfodol?
Os 'dach chi'n dangos a ddim yn ennill 'dyw hi ddim o bwys. Dylech chi dal i ddangos beth bynnag sy'n digwydd. Dal i drio. I bobl sydd ddim yn dangos mae'n gyfle i weld y cynnyrch lleol a'r stoc fydd yn mynd ar y bwrdd!

Beth yw eich hoff atgof o unrhyw flwyddyn o'r sioe?
Ennill yr 'interbreed' efo defaid Beulah yn 2008.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy