Dyma ei gyngor i feicwyr yn sir y Fflint:
"Ddaru mi ddechrau beicio drwy seiclo i'r gwaith yn Shotton, oedd yn bellter o tua tair milltir. Wedyn mi ddaru mi fynd am drip beics i Iwerddon am dair wythnos - 900 milltir ddaru ni ei wneud. Tair wythnos - ac un dydd a hanner o law - dyna'r cwbl!
"Dydw i ddim yn perthyn i glwb beicio ond mae clwb Chester and North Wales yn cyfarfod yn Eureka Cafe yn Two Mills ger Neston ar yr Wirral. Mae'n gaffi seiclo enwog - roedd na feiciwr Olypaidd yn arfer mynd yno. Mi enillodd nifer o gystadlaethau ryw 10-15 mlynedd yn ôl.
"Mae pawb yn cyfarfod ar ddydd Mercher, dydd Sadwrn a dydd Sul - llwyth o glybiau o dros y Wirral i gyd yn cwrdd yno a mynd allan ar deithiau beic.
"Os ydych chi eisiau cychwyn beicio yn yr ardal mae na amrywiol glybiau i ymuno â nhw. Y cwbl wnes i oedd ffonio ysgrifennydd clwb seiclo ac maen nhw'n eich rhoi mewn cysylltiad efo lle bynnag rydych chi eisiau mynd - maen nhw'n rhoi rhaglenni ichi ar gyfer gogledd Cymru i gyd - clybiau yng Nghaer, Wyddgrug, Dinbych.
"Maen rhaid ichi fod yn aelod o'r CTC (mudiad beicio Prydain) i ymuno. Does dim tâl aelodaeth i ymuno â chlwb ond maen rhaid ichi fod yn aelod o'r prif gorff.
"Does na ddim cyfyngiadau o ran ffitrwydd - mae llawer o'r clybiau yn rhedeg tripiau teulu ac mae gan siopau yng Nghaer hysbysebion i fudiadau sy'n cynnal teithiau i deuluoedd, tripiau mawr a bach bob wythnos, ac mae 'na lawer o dripiau elusennol.
"Drwy gaffi Eureka fydda' i'n mynd bob tro - oddi yno mae pawb yn cychwyn. Mae ganddon ni lôn dda iawn yn mynd o Gaer i Shotton, yna i fyny'n uwch ar hyd y ffordd, pigo'r lôn i fyny yn Gronant ac yna'r holl ffordd i Landudno oddi ar y ffordd, yna dilyn y lôn feicio hyd ochr y ffordd i Fangor.
"Yr unig broblem ydy fod na lot o wynt ar y lôn i Fangor yn chwythu yn eich erbyn o'r môr.
"Mae'n reid hyfryd o Brestatyn i Landudno. Dwi wedi gwneud y daith o Shotton i Fangor sawl gwaith hefyd - gan aros y noson yn yr hostel ieuenctid. Dwi'n hen law ar aros mewn hosteli erbyn hyn!"
David Thomas
Un o Dreffynnon ydy David Thomas yn wreiddiol ond yn byw yn Shotton rŵan. Gyda'i rieni a'i nain a'i daid yn siaradwyr Cymraeg, aeth i ysgol gynradd Gymraeg ac roedd yn un o fyfyrwyr cyntaf Ysgol Gymraeg Glan Clwyd yn y Rhyl.
Ond collodd ei Gymraeg ar ôl mynd i weithio i ffatri awyrennau British Aerospace ym Mrychdyn ger Caer wedi gadael yr ysgol. Er fod rhai o'i ffrindiau yn siarad Cymraeg, dydyn nhw ddim yn cael cyfle i'w defnyddio gyda'i gilydd gan fod cynifer o'u ffrindiau eraill ddim yn ei siarad.
Mae'n cael gwersi Cymraeg yn yr Wyddgrug ers blwyddyn a hanner rŵan ond yn difarru na fyddai wedi cychwyn flynyddoedd yn ôl. Ond does dim digon o gyfle i ymarfer y tu allan i'r gwersi meddai - roedd un o'r tafarndai lleol yn cynnig nosweithiau siarad Cymraeg ers talwm ac fe hoffai gyfle tebyg i wneud hynny heddiw.