Beth yw eich cysylltiad â'r diwydiant bwyd? Rydyn ni'n gwneud jamiau, siytni a phicls. Sut wnaethoch chi ddechrau? Mi wnaethon ni ddechrau arbrofi adref ac wedyn penderfynu dechrau'r busnes fel sialens newydd. Beth ydy eich hoff fwyd/math o fwyd a pham? Cynnyrch ffres heb unrhyw gynnwys artiffisial ynddo. Hoff gynnyrch lleol a pham? Cig lleol - ansawdd gwell ac mae'n cefnogi ffermwyr lleol. Hoff le i brynu bwyd? Marchnadoedd lleol.
 |