| Creewyd Cymdeithas Gwestai a Bwytai'r Wyddgrug yn arbennig er mwyn cynnal yr ŵyl fwyd hon yn y dref. Mae tîm o wirfoddolwyr yn trefnu'r ŵyl dan arweiniad Greg Shankar, perchennog gwesty Bryn Awel yn yr Wyddgrug ac mae'r croeso i unrhyw un sy'n ymwneud â'r diwydiant arlwyo a chroesawu yn nhref farchnad yr Wyddgrug a'r cylch ymaelodi â'r gymdeithas. Dyddiad gŵyl 2008 ydy Medi 20 a 21. Yn y gorffennol mae'r digwyddiad wedi denu cogyddion o fyd y teledu fel Leslie Waters a James Martin a rhai miloedd o ymwelwyr. Caiff ei chynnal ym maes parcio Stryd Newydd yng nghanol y dref.
Ceir rhagor o wybodaeth am ŵyl ar eu gwefan: www.moldfoodfestival.co.ukneu drwy ffonio 01352 758622 (estyniad 200).
 |