| Torrodd Ruth
Jones y rhuban i adael i'r cyhoedd ddod i mewn a mwynhau
ei gwasanaethau newydd a gwell -
a daeth dros 1000 o gwsmeriaid yn yr awr gyntaf!
Ond parodd y dathliadau fwy na
diwrnod ac fe gychwynnodd yr
agoriad swyddogol hwn wythnos
gyfan o weithgareddau i bobl o bob oed a diddordeb.
Mwynhaodd carwyr llenyddiaeth ddau ddigwyddiad ar ddydd Mercher 24ain Mawrth lle cafodd
y gynulleidfa wledd o ddarlleniadau o'u llyfrau gan awduron sy'n ysgrifennu yn y Gymraeg a'r
Saesneg, a hefyd o ddarnau a ysgrifennwyd ganddynt am Wrecsam a'r llyfrgell yn arbennig ar gyfer yr achlysur. Roedd un o'r awduron, Holly
Howitt (awdur Dinner Time and
The Schoolboy a ganmolwyd gan
y beirniaid) yn llawn edmygedd o'r llyfrgell a'r achlysur, ac meddai: 'Diolch am yr achlysur a drefnwyd gennych ddydd Mercher. Cefais amser bendigedig. llwyddiannus ac yn dal i gael
ymwelwyr fel y cafodd eisoes. ' Cynhaliwyd Diwrnod Plant Pwysig ar 24ain Mawrth ac roedd yn llwyddiant ysgubol. Cynhaliodd Llyfrgellwyr Blynyddoedd Cynnar Wrecsam ddwy sesiwn drwy gydol y dydd, yn gwahodd plant sy'n mynychu eu sesiynau rheolaidd yn ardaloedd rhoi cymunedau'n gyntaf, plant Cyfnod Allweddol 1, a phlant dan 5 a'u teuluoedd. Mwynhaodd y plant ddiwrnod gwych, gyda chyfnodau stori a rhigwm, Play-doh a chrefftau. Trefnodd Llyfrgellydd y Plant sesiynau adrodd straeon hefyd ar gyfer plant Cyfnod Allweddol 2 a daeth
150 o ddisgyblion i fwynhau storiâu, cylchdeithiau o'r llyfrgell a sesiwn flasu ar gyfleuster diweddaraf y llyfrgell, BFI Mediatheque. 'Diwrnod Hysbysrwydd' oedd
25ain Mawrth a galwodd y cyhoedd heibio'r llyfrgell i ddysgu
am ymchwilio hanes eu teuluoedd, ac elfennau cyfrifiadura a defnyddio'r Rhyngrwyd. Mae'r llyfrgell yn cynnig cyrsiau fel y rhain drwy gydol y flwyddyn.
 |