 |  | Croeso i'r Post Cyntaf Croeso mawr i Garry Owen o'r Post Cyntaf gan dîm Papur Fama! |  |  |
 | 
 |
Criw y BBC gyda Charles Hogg, Llyr Hughes Gruffydd, Aled Lloyd Davies, Ffion Williams, Nan Wyn, Harri Bryn Jones a Garri Owen
|  | 123456 |  |
Rydym yn anelu at y 300fed rhifyn o'r papur. Da ni'n ffodus iawn gan ein bod efo criw ifanc yn golygu ac maen nhw'n frwdfrydig iawn, yng nghyd a'r 'hen stagers' fel fi!
Y brif sialens yw cadw'r arian yn dod i mewn, ac fel pob papur rydym yn anelu i gynyddu'r nifer o bobl sy'n derbyn y papur - wedi'r cwbl, pobl ydy'r papur - mae'n dibynnu ar y rhai sy'n darllen ac yn cyfrannu.
I raddau helaeth, da ni'n teimlo ein bod yma yn Y Fflint ar y cyrion, ac mae llawer o'n pobl ifanc yn mynd lawr i Gaerdydd i weithio, sy'n well na Lerpwl na Llundain. Mae'n beth da wrth gwrs ond mae'n braf fod Radio Cymru yma - dewch eto!
Charles Hogg, Cadeirydd Pwyllgor Papur Fama |  |
| 
|