BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Abaty Glyn y Groes, Llangollen

Valle Crucis
next page
123456789

Mae adfeilion Abaty Glyn y Groes, neu Valle Crucis yn Lladin, tua milltir a hanner i'r gogledd o Langollen. Tynnwyd y lluniau yma o'r hen abaty Sistersaidd gan Lyndon Wray, sy'n byw ym Mhensarn ger Abergele, ac sydd wedi ymddiddori yn hanes a golygfeydd gogledd Cymru ers dod yma i fyw o Loegr.

Sefydlwyd yr abaty gan Madog ap Gruffydd Maelor ym 1201 ar gyfer Urdd y Mynaich Gwynion yn gysylltiedig ag Abaty Ystrad Marchell ger Y Trallwng.

Mae'r enw'n dod o Groes neu Biler Eliseg sydd heb fod ymhell o'r abaty ac sy'n llawer hŷn. Colofn syth ydy piler Eliseg gyda chroes arni ac arysgrif Lladin yn coffáu teulu llywodraethol teyrnas Powys yn ystod y 7fed i'r 9fed ganrif.

Mae'r abaty ar ffurf croes ac roedd lle i gysgu tua 20 o fynachod yno ac efallai tua 40 o frodyr lleyg. Dros y blynyddoedd, mae'r abaty wedi dioddef gan ddifrod tân, difrod yn ystod dau ymosodiad y brenin Edward I ar Gymru yn 1276-1277 a 1282-1283. ac, yn ôl rhai, yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr er nad oes tystiolaeth i brofi hyn.

Mwy o wybodaeth ar safle Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol




0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy